Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n croesawu cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar gyfer 2023-2024 heddiw (19 Medi). Mae'r ddogfen hon yn adrodd ar ail flwyddyn y sefydliad o gyflawni yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-2025. 

Yn ystod y flwyddyn, casglodd ACC bron i £300 miliwn mewn Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). Mae'r refeniw a godwyd o'r 2 dreth ddatganoledig Gymreig yma’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion a'r GIG, yn ein cymunedau yng Nghymru. 

Mae ACC wedi nodi sut y mae wedi parhau i esblygu ei ffordd Gymreig o drethu - drwy ymgysylltu'n rhagweithiol a chefnogi pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir. Yn gadarnhaol, mae'r mwyafrif helaeth o bobl wedi parhau i dalu'r dreth gywir ar yr adeg gywir unwaith eto. Ac rwy'n croesawu'r canlyniad hwn, wrth i ni weithio i greu system dreth deg yng Nghymru. 

Adlewyrchir y canlyniad hwn hefyd yn y ffordd y mae ACC wedi rheoli a chasglu TGT gyda chydweithrediad eu partneriaid strategol, Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae defnydd rhagweithiol ACC o ddadansoddi data, rhannu gwybodaeth a gweithgarwch ymholi wedi arwain at gasglu lefelau uwch o TGT nag a fyddai wedi bod yn bosibl heb ymyrraeth. 

O ran datblygu trethi ar gyfer y dyfodol, darparodd ACC arbenigedd a phrofiad gweithredol pwysig hefyd ar gyfer archwilio ardoll ymwelwyr posibl i Gymru, fel un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae ACC wedi gwneud dechrau cadarn o ran datblygu mwy o allu mewnol er mwyn dylunio a darparu gwasanaeth digidol y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu optio mewn iddo yn y dyfodol.