Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n croesawu cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar gyfer 2022-2023 (14 Medi 2023). Mae'r ddogfen hon yn adrodd ar flwyddyn gyntaf Cynllun Corfforaethol ACC ar gyfer 2022-2025.
Yn ystod y flwyddyn, casglodd a gweinyddodd ACC dros £400 miliwn mewn Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r arian hwn yn mynd yn uniongyrchol tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Rwy'n arbennig o falch o weld ACC yn ymateb i'r argyfwng costau byw parhaus, yn dod o hyd i ffyrdd o atal pobl rhag mynd i ddyled, ac yn darparu gwell cymorth lle nad oedd modd osgoi dyled.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod y gwaith wedi datblygu'n sylweddol o ran mynd i'r afael â gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yng Nghymru, gyda'r achosion cyntaf o Warediadau Heb eu Hawdurdodi’n cael ei codi, a threth yn cael ei chasglu. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol.
Mae ACC yn parhau i gefnogi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, trwy weithio ar ddatblygu trethi ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i roi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno ardoll ymwelwyr yn ôl eu disgresiwn.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru gyda'i Fwrdd ei hun. Yn ystod y flwyddyn, penodais Ruth Glazzard yn Gadeirydd newydd i gymryd lle Kathryn Bishop, oedd â’i chyfnod yn y swydd wedi dod i ben. Diolchais i Kathryn am y rôl sylweddol a chwaraeodd wrth sefydlu a llywio ACC drwy ei flynyddoedd cyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld Ruth yn cyfrannu at lwyddiant y sefydliad dros y blynyddoedd nesaf.