Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Heddiw rwy’n cyhoeddi ein pedwerydd Adroddiad Blynyddol ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy’n ymdrin â’r cyfnod o 01 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022. Mae’r adroddiad yn darparu diweddariad ar yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog ledled Cymru. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r rheini sy’n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, yn ogystal â’u teuluoedd, ac rydym yn gweithio gyda’n holl bartneriaid i gyflawni’r ymrwymiad hwn i gynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Hoffwn ddiolch i aelodau’r Grŵp Arbenigol ar y Lluoedd Arfog a’r holl randdeiliaid yng Nghymru am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau sy’n cydnabod gwerth ac aberth cymuned ein Lluoedd Arfog.
Mae copi o’r Adroddiad Blynyddol ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gael yn:
https://llyw.cymru/cyfamod-y-lluoedd-arfog-adroddiad-blynyddol-2021