Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wedi ei hadroddiad cynnydd blynyddol, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ym mis Gorffennaf.  Nawr, rwy'n falch o gael cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2018-19 a gynhyrchwyd gan Gynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae hyn hefyd yn ofynnol o dan y Ddeddf.

Mae'r Adroddiad yn disgrifio argraffiadau'r Cynghorwyr Cenedlaethol o'r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni dibenion y Ddeddf a'r amcanion a nodir yn y strategaeth ategol, sef Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2016-2021. Ymhlith y pwyntiau pwysig niferus, maent yn nodi sut y bu cynnydd aruthrol yn nifer y troseddau rheolaeth drwy orfodaeth a adroddwyd yn dilyn ymgyrch y Llywodraeth ar Reolaeth drwy Orfodaeth, sef “Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw Hyn”.

Maent hefyd yn cyfeirio at yr arbenigedd sy'n cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu'r elfen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd a sut y mae'r elfen Hyfforddiant Cenedlaethol ar ein gwaith bellach wedi cyrraedd mwy na 158,000 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru. 

Rwy'n ddiolchgar iddynt am y dadansoddiadau a'r gefnogaeth y maent wedi ei rhoi i mi a'm swyddogion drwy gydol y cyfnod adrodd.

Gallwch weld yr adroddiad yma:

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: Adroddiad blynyddol y Cynghorwyr Cenedlaethol 2018 i 2019