Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Hydref 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Law yn Llaw at Iechyd Meddwl - ein strategaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles sy'n cynnwys pobl o bob oed. Heddiw, rwy'n falch i gyflwyno Adroddiad Blynyddol cyntaf y Llywodraeth ar y strategaeth honno. Mae adroddiadau lleol eisoes wedi'u cynhyrchu ar draws Cymru gyfan, sy'n nodi'r cynnydd lleol a wnaed yn ôl  Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn ei blwyddyn gyntaf, ac yn ôl y blaenoriaethau ar gyfer 2014. Nid yw'r adroddiad hwn yn dyblygu cynnwys y dogfennau hynny. Yn hytrach, mae'n cynnig trosolwg cenedlaethol, ac yn tynnu sylw at gynnydd Llywodraeth Cymru ei hun.

Ar y cyd, mae'r adroddiadau hyn i gyd yn dangos ein hymrwymiad i agenda iechyd meddwl yng Nghymru. Mae gwaith da'n cael ei wneud ledled y wlad i roi camau gweithredu cynnar y Cynllun Cyflawni ar waith, yn enwedig wrth weithredu'n deddfwriaeth bwysig, sef Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.  Mae ein cynlluniau gofal a thriniaeth cyfannol yn allweddol er mwyn ystyried safbwynt y person yng nghyd-destun pob agwedd ar ei fywyd, yn hytrach nag ystyried y person fel claf sy'n derbyn gwasanaethau yn unig.

Mae cryn dipyn wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf y gallwn fod yn falch ohono.  Mae ymrwymiad ac ymroddiad ein staff yn cael eu cydnabod fwyfwy drwy'r dyfarniadau cenedlaethol y maent yn eu derbyn. Rhoddir sylw i rai o'r rhain yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys nifer o enghreifftiau o arferion gorau a dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau ledled Cymru. Mae nifer o'r rhain yn dangos y cydweithredu gwirioneddol sydd ar waith ar draws y sector statudol a'r trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr.

Serch hynny, mae mwy eto i'w wneud.  Rhaid inni ddatblygu'r gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Mae casgliadau'r Adroddiad Blynyddol yn tynnu sylw at y meysydd hynny y mae angen gweithredu arnynt ymhellach. Ond yn anad dim, rhaid inni sicrhau bod iechyd meddwl a lles yn aros yn flaenoriaeth yn y cyfnod heriol hwn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi gwybod y newyddion diweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad arall, neu ateb cwestiynau ar y datganiad hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddwn yn falch o wneud hynny.