Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau 

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Chwefror 2012, cafodd Panel Adolygu arbenigol ei benodi, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Adrian Webb, i gynnig awgrymiadau deallus a chytbwys am y math o ddarpariaeth Addysg Uwch fyddai’n ateb anghenion economaidd a chymdeithasol yr ardal ynghyd ag anghenion dysgwyr yn y ffordd orau. Cwblhaodd y Panel ei waith ddiwedd Mehefin, a heddiw rwyf yn cyhoeddi adroddiad Syr Adrian.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Cadeirydd ac i aelodau’r Panel am yr ymrwymiad y maen nhw wedi’i ddangos i’r gwaith hwn. Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen dull mwy strategol, gan gynnwys cydweithio mwy cadarn ac effeithiol, er mwyn diwallu anghenion economi ardal gyfan y Gogledd-ddwyrain, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion roi ystyriaeth fanwl i argymhellion y Panel ac i’r amrywiaeth o dystiolaeth y mae’r adroddiad yn ei chyflwyno. Mae’r rhain yn cynnwys yr opsiynau a gynigiwyd ar gyfer trefniadau ffederal i gyflenwi addysg uwch yn yr ardal. Wedi imi drafod ymhellach gyda’r bobl berthnasol a chlywed eu cyngor nhw, byddaf yn gwneud datganiad pellach yn y gwanwyn.