Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ar ran Llywodraeth Cymru, rydw i’n croesawu’r adroddiad ar yr Adolygiad o Awdurdod Harbwr Caerdydd. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Bartneriaethau Lleol (menter ar y cyd sydd ym mherchnogaeth Trysorlys ei Mawrhydi, Cymdeithas Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru).
Rydym yn cydnabod cwmpas a phwysigrwydd y gwaith a wneir gan yr Awdurdod ac rydw i’n falch o weld bod safon uchel y gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod wedi’i gydnabod yn yr adroddiad. Mae ganddo enw da ymhlith ei gwsmeriaid a’i randdeiliaid fel ei gilydd.
Wrth gynnal yr adolygiad, mae Partneriaethau Lleol wedi ymgynghori â’r Awdurdod, Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cymdeithas Porthladdoedd Prydain.
Mae’r adroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyngor Dinas Caerdydd a’r Awdurdod i symud ymlaen â’r argymhellion.
Wrth reoli lleoliad â phroffil mor uchel â Bae Caerdydd, mae’r Awdurdod yn cyfrannu at amcanion strategol ehangach drwy groesawu digwyddiadau mawr fel Ras cefnfor Volvo a thrwy ei ymrwymiad i wella’r amgylchedd.
Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym drefniadau priodol ar wait hi alluogi’r Awdurdod i barhau i gyflawni ei swyddogaeth yn y dyfodol.