Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydw i'n cyhoeddi adroddiad, 'Buddsoddi mewn Gweithlu Rhagorol', a ddatblygwyd ar y cyd â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae'r adroddiad cynnydd hwn yn ymwneud â'r gweithlu cyfan mewn ysgolion (gan gynnwys athrawon, penaethiaid, cynorthwywyr addysg ac eraill sy'n cefnogi dysgwyr neu athrawon) ac mae'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn rydym wedi ei wneud hyd yma ac yn nodi'r camau nesaf sydd gennym ar y gweill.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a'r Academi Genedlaethol ar Arweinyddiaeth Addysgol, a byddwn yn cyhoeddi cynllun ar gyfer datblygu'r gweithlu cyn yr haf.

Bydd hwn wedi'i seilio ar ddau brif nodwedd: cynllunio'r gweithlu yn effeithiol ar sail gwybodaeth a data manwl; a chydlafurio a chydweithredu sefydliadol i adeiladu arbenigedd a'i rannu ac i newid y diwylliant.

Gallwch ddod o hyd i'r adroddiad yma (https://beta.llyw.cymru/cynllun-datblygur-gweithlu-adroddiad-cynnydd-2019)