Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf osod gerbron y Senedd heddiw y seithfed adroddiad blynyddol ynghylch y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith.

O dan Adran 3C o Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965, fel y'i mewnosodwyd gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad yn flynyddol ynghylch i ba raddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru wedi'u gweithredu.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod o 15 Chwefror 2021 i 14 Chwefror 2022, ac mae’n rhoi diweddariad i'r Aelodau ynghylch nifer o feysydd sy'n ymwneud â chynigion y Comisiwn. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am brosiectau presennol y Comisiwn a phrosiectau’r dyfodol.

Gwnaethpwyd cynnydd dros y deuddeg mis diwethaf ar ystod o faterion sydd wedi bod yn ddarostyngedig i argymhellion y Comisiwn. Rydym wedi ymrwymo’n ffurfiol i gyflawni Bil Cydgrynhoi Cynllunio yn ystod tymor y Senedd hon, gan gydweithio’n agos â’r Comisiwn ar gyflwyno’r Bil. Rydym wedi cyhoeddi cyfres o egwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol yng Nghymru, ac rydym wedi sicrhau cynnydd pellach wrth weithredu cynigion y Comisiwn mewn perthynas â gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat, diwygio cyfraith lesddaliad a chyfunddaliad, cyfraith bywyd gwyllt a thribiwnlysoedd Cymru sydd wedi’u datganoli.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â sut rydym yn meithrin cysylltiadau â’r Comisiwn ar ei brosiectau presennol a phrosiectau’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith pwysig ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â diogelwch tomenni glo a cherbydau awtomatig.

Mae'r diweddariad hwn a'r cynnydd a nodwyd yn dangos y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gynigion Comisiwn y Gyfraith.