Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Rwyf yn falch o osod gerbron y Cynulliad heddiw'r pumed adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gan Lywodraeth Cymru.
Yn unol ag Adran 3C o Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, fel y’i mewnosodwyd gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol gan egluro i ba raddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru wedi cael eu gweithredu.
Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 16 Chwefror 2019 a 14 Chwefror 2020, ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r aelodau am nifer o feysydd sy'n ymwneud â chynigion Comisiwn y Gyfraith yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau Comisiwn y Gyfraith yn awr ac yn y dyfodol.
Mae cynnydd wedi'i wneud dros y deuddeg mis diwethaf ar ystod o faterion a fu'n destun argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Rydym wedi cymryd camau breision mewn perthynas â gwella ffurf a hygyrchedd cyfraith Cymru, gan gynnwys trwy Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 sy'n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol. Rydym wedi ymgynghori ar Bapur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a gymerodd i ystyriaeth argymhellion Comisiwn y Gyfraith ynghylch gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat. Cyhoeddwyd ymateb interim i adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r gyfraith gynllunio yng Nghymru, ac rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r set lawn o argymhellion. Rydym yn parhau i gydweithio'n agos ag adrannau Llywodraeth y DU ar drefniadau gweithdrefnol ar gyfer awdurdodi gofal a thriniaeth sy'n gyfystyr ag amddifadu rhyddid person er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r tirlun deddfwriaethol a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut yr ydym wedi ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith ar ei brosiectau presennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys diwygio lesddaliadol a chyfunddaliadol.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys mawr ar gynigion Comisiwn y Gyfraith, fel y dangosir gan y cynnydd a nodir yn yr adroddiad.