Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Y mae’n bleser gennyf gyflwyno gerbron y Cynulliad heddiw, yr adroddiad blynyddol cyntaf ar weithrediad Llywodraeth Cymru o gynigion Comisiwn y Gyfraith.

O dan Adran 3C Deddf Comisiynau’r Gyfraith1965, fel y’i mewnosodwyd gan Adran 25 Deddf Cymru 2014, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn ar y graddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith wedi’u gweithredu gan Lywodraeth Cymru.  Derbyniodd Deddf Cymru 2014 Gydsyniad Brenhinol ar 17 Rhagfyr 2014, a daeth Adran 25 i rym ar 17 Chwefror 2015.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddeddfwriaethau Cymru sy’n gyson â’r rheol gyfreithiol, sy’n effeithiol ac yn hygyrch i’r dinesydd cyffredin.  Mae gwaith Comisiwn y Gyfraith yn elfen hollbwysig o’r ymdrech hon, ac rwy’n falch iawn bod Deddf Cymru 2014 a’r protocol yn rhoi hyn ar sail statudol.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu gwaith rhagorol Comisiwn y Gyfraith.  Am y tro cyntaf yn hanes Comisiwn y Gyfraith, mae’r Ddeuddegfed Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith yn cynnwys prosiectau sy’n ymwneud yn unig â materion sydd wedi’u datganoli i Gymru.  Yr wyf yn edrych ymlaen at ganlyniad yr adolygiad o gyfreithiau cynllunio yng Nghymru, yn ogystal â’r prosiect ymgynghorol ar ffurf a hygyrchedd cyfreithiau sy’n berthnasol yng Nghymru.  Credaf y bydd y prosiectau hyn yn arwain y gwaith o weithredu cynigion pellach Comisiwn y Gyfraith yn y blynyddoedd i ddod.