Julie Morgan, AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Gosododd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru nid yn unig i roi sylw dyladwy i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau wrth arfer eu swyddogaethau, ond hefyd i gyhoeddi adroddiad yn esbonio sut maent wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd.
Yn ein Cynllun Hawliau Plant, a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn 2014, gwnaethom ymrwymo i gyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd a hanner.
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein pumed adroddiad cydymffurfiaeth sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023.
Mae'r ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn anodd i lawer o bobl, yn enwedig plant. Rwyf wedi achub ar y cyfle yn yr adroddiad hwn i nodi rhai o'r ffyrdd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw sydd wedi cael, ac sy'n parhau i gael, effaith nas gwelwyd o'r blaen ar gynifer o blant a'u teuloedd.
Mae'r adroddiad hwn yn gyfle i fyfyrio ar gyflawniadau'r gorffennol o ran sicrhau bod hawliau pobl plentyn yn cael eu cydnabod, eu parchu a'u gwireddu.