Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gosodwyd dyletswydd ar Weinidogion Cymru gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 nid yn unig i roi sylw dyledus i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau wrth arfer eu swyddogaethau, ond hefyd i gyhoeddi adroddiad ar sut y maent hwy a'r Prif Weinidog wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd. Mae’r trefniadau hyn wedi’u nodi yn ein Cynllun Hawliau Plant a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn 2014.

Mae'r pedwerydd adroddiad cydymffurfio hwn yn cwmpasu cyfnod mis Chwefror 2018 hyd at fis Medi 2020. Mae rhan olaf y cyfnod adrodd yn cwmpasu misoedd cyntaf pandemig Covid-19 ac mae'r adroddiad hwn yn amlinellu rhai o'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ymateb i argyfwng Covid-19. 

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i ystyried llwyddiannau’r gorffennol a meddwl sut yr ydym am barhau i hyrwyddo a chynnal hawliau plant.

Cyhoeddais Gynllun Hawliau Plant diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2020 a'r bwriad, gan ddibynnu ar yr adborth, yw cyhoeddi Cynllun Hawliau Plant wedi'i ddiweddaru yn nhymor yr hydref, 2021.