Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Ionawr, cyhoeddais alwad am dystiolaeth, Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg, er mwyn casglu barn a phrofiad cyrff sydd eisoes o dan drefn Safonau’r Gymraeg neu sy’n paratoi i ddod o dan y drefn Safonau a osodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Roeddwn i’n dymuno clywed am eu profiad o’r gyfundrefn Safonau, am gydbwysedd swyddogaethau rheoleiddio a hybu Comisiynydd y Gymraeg, ac am drefniadau i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn fwy cyffredinol.

Rwy’n falch i gyhoeddi heddiw grynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law. Cafwyd 35 o ymatebion ysgrifenedig, a mynychodd 49 o swyddogion o gyrff cyhoeddus weithdai a gynhaliwyd yng Nghyffordd Llandudno, Abertawe a Chaerdydd. Rwy’n ddiolchgar i bawb a gynigiodd ymateb i’r alwad am dystiolaeth ac a fynychodd un o’r gweithdai.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cefnogaeth gyffredinol i’r Safonau a’r effaith gadarnhaol ar wasanaethau Cymraeg. Mae’n rhy gynnar i gloriannu effeithiolrwydd y Safonau yn y tymor hir ond mae’r sylwadau yn awgrymu bod cynnydd wedi digwydd yn nifer a safon y gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig, a bod ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg ar i fyny. Fy ngobaith yw y bydd y Safonau yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n dewis gwasanaethau yn y Gymraeg yn y dyfodol.

Er hynny, mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu bod y gyfundrefn o osod y Safonau yn or fiwrocrataidd ac yn bygwth erydu ewyllys da at y Gymraeg. Mae’r dystiolaeth yn glir bod diffyg cymorth ar gael i gyrff sy’n ceisio trawsnewid y gwasanaethau maent yn eu cynnig a datblygu gweithlu dwyieithog. Mae’r dystiolaeth bron yn unfryd nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol wedi arwain at balans priodol rhwng swyddogaethau rheoleiddio a swyddogaethau hybu a hyrwyddo y Comisiynydd. Mae’r Comisiynydd yn gwneud ei gorau yng ngyd-destun deddfwriaeth anodd ac mae ymdrechion i gynnig mwy o gefnogaeth yn y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu gwerthfawrogi gan wasanaethau cyhoeddus.

Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n talu sylw gofalus i’r hyn sydd gan ein partneriaid i ddweud. Mae’r sylwadau yn yr adroddiad hwn am y rhwystredigaethau maent yn profi o dan y gyfundrefn bresennol a’r rhwystrau ymarferol sy’n eu wynebu wrth geisio darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn taro deuddeg. Mae’n rhaid i ni weithredu er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r cyrff hyn. Mae brwdfrydedd ac egni staff rheng flaen, rheolwyr ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, a’r angen am egni a ffocws newydd i waith hybu a hwyluso, yn hanfodol os ydym am gynyddu defnydd o’r Gymraeg.