Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, mae Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru, Dan Stephens QFSM, wedi cyhoeddi adroddiad ar ba mor effeithiol yw dulliau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiffodd tanau mewn anheddau.
Fe wnaeth y Comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ofyn i'r Prif Gynghorydd ac Arolygydd gynnal yr arolygiad hwn i'w helpu i asesu gallu gweithredol y sefydliad a darparu meincnod i gefnogi datblygiad y sefydliad. Mae'r arolygiad yn adeiladu ar arolygiadau thematig blaenorol y Prif Gynghorydd ac Arolygydd sy'n cwmpasu'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, ac mae'n bwriadu cynnal archwiliadau tebyg o Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu adolygiad manwl o danau mewn anheddau yn Ne Cymru yn y ddwy flynedd cyn mis Mawrth 2023, a chyn i'r Comisiynwyr gael eu penodi. Mae'n seiliedig ar gofnodion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei hun a chyfweliadau â chriwiau rheng flaen ac uwch swyddogion y gwasanaeth.
Y canfyddiad cyffredinol yw nad oedd y tactegau a’r cyfarpar diffodd tân a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwn mor effeithiol ag y gallent fod wedi bod o ran rheoli a diffodd tanau yn gyflym ac yn effeithiol. Yn ôl y Prif Gynghorydd ac Arolygydd gallai'r rhain fod wedi cynyddu difrod i eiddo a pherygl i fywyd mewn rhai achosion.
Rwyf am ei gwneud yn glir nad oes beirniadaeth o ddiffoddwyr tân rheng flaen yn yr adroddiad, sy'n parhau i wneud eu gorau glas i amddiffyn bywyd ac eiddo. Gall y cyhoedd fod yn hyderus o ran hynny. Mae'r mater yn ymwneud â sut mae diffoddwyr tân yn cael eu hyfforddi a’u harfogi a'r tactegau a ddefnyddir i ddiffodd tanau.
Mae hon yn broblem nad yw wedi'i chyfyngu i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru nac i Gymru. Mae’r trefniadau presennol ar gyfer diffodd tanau wedi’u defnyddio gan y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y DU ers tua 30 mlynedd, ac felly mae angen eu newid yn ehangach.
Mae angen i’r Comisiynwyr a'r ddau Awdurdod Tân ac Achub arall yng Nghymru weithredu ar ganfyddiadau'r Prif Gynghorydd ac Arolygydd. Byddaf hefyd yn ymgysylltu â'r Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac annog dull cyffredin o fynd i'r afael â'r canfyddiadau hyn.
Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i'r Pwyllgor am hyn fel bo'n briodol.