Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i hyrwyddo hawliau plant o ddifrif ac mae cyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn dyst i hyn. Mae’n ganlyniad canolbwyntio ar hawliau plant yng Nghymru ers dechrau 2000 a mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) mewn perthynas â gweithgarwch uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yng Nghymru yn 2004.

Mae’r Mesur wedi gosod dyletswydd ar Weinidogion i roi sylw dyledus i’r CCUHP a’i Brotocolau Dewisol wrth wneud penderfyniadau ynghylch deddfwriaeth a pholisïau arfaethedig a phan fyddwn yn adolygu deddfwriaeth a pholisïau cyfredol. Daeth cam cyntaf y sylw dyledus i rym ar 1 Mai 2012.

Mae’r Mesur yn cyfeirio at bobl dan 18 oed fel “plant”  a’r rhai rhwng 18 a 24 oed (gan gynnwys y rheini sy’n 24 oed) fel “pobl ifanc”. Mabwysiadwyd y dull hwn er mwyn bod yn gyson â’r CCUHP ac â Mater 15.6 yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y deilliodd cymhwyster deddfwriaethol ar gyfer y Mesur hwn ohono.

Yn ôl Adran 7 y Mesur roedd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ynghylch posibilrwydd cymhwyso erthyglau’r CCUHP i rai 18-24 oed yng Nghymru a’n bod yn cyhoeddi adroddiad o gasgliadau’r ymgynghoriad hwn. Cafodd y bwriad i ymgynghori ar yr elfen hon o’r Mesur ei ddatgan o fewn Cynllun Hawliau Plant 2012.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos i ofyn am sylwadau gan randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc. Erbyn hyn mae dadansoddiad o’r ymgynghoriad wedi’i gwblhau ac ystyriwyd yr ymatebion.

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi’r adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion a’r casgliadau ac rwy’n rhannu fy mhenderfyniad am y canlyniad gyda chi.  

Cafwyd neges glir gan y rhanddeiliaid a’r bobl ifanc eu hunain. Er y gall y cyfnod pontio rhwng bod yn blentyn a bod yn oedolyn fod yn un hynod o anodd, yn enwedig i’r rhai yr ystyrir eu bod fwyaf agored i niwed, ni fydd cymhwyso’r erthyglau yn y CCUHP yn ateb y problemau pontio hyn ac mae ffyrdd gwell o ganolbwyntio ar hawliau pobl ifanc 18-24 oed.  

Dywedodd nifer o ymatebwyr fod y CCUHP yn glir am sgôp y Confensiwn a’i fod wedi’i ddrafftio ar gyfer plant dan 18 oed yn unig. Roedd llawer o’r ymatebwyr hefyd wedi dangos yn glir nad oedd nifer o’r erthyglau o fewn y CCUHP yn briodol i’r grŵp oedran 18-24 oed.

Rwyf wedi ystyried yr ymatebion ac wedi dod i’r casgliad nad cymhwyso’r erthyglau yn y CCUHP yw’r ffordd orau o symud ymlaen i helpu i ddiogelu hawliau pobl ifanc yn y grŵp oedran hwn yng Nghymru. Felly, ni fyddwn yn cymhwyso’r erthyglau yn y CCUHP i rai 18-24 oed.

Fodd bynnag, codwyd nifer o faterion yn yr ymgynghoriad a thynnwyd sylw at nifer o awgrymiadau ac argymhellion mewn perthynas â phroblemau’r grŵp oedran hwn.

Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Weinidogion Cymru i roi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad ac rwyf wedi gofyn iddynt rannu’r awgrymiadau hyn â chydweithwyr yn adrannau eraill Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb arweiniol dros y materion hyn.

Yn olaf, hoffwn arbed ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac i bwysleisio y byddwn yn parhau i weithio gyda phlant, pobl ifanc a rhanddeiliaid allanol sydd ag arbenigedd ym maes hawliau plant, i sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y cymorth gorau posibl i oresgyn yr heriau a’r rhwystrau yn eu bywydau.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.