Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn lansio ei Adroddiad heddiw, dan y teitl “Sbarduno Economi Cymru”.
Mae’r Adroddiad hwn yn garreg filltir arall yn y broses o ddatblygu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’n nodi gweledigaeth strategol y Bwrdd – sef gwireddu potensial y Brifddinas-Ranbarth i drawsnewid bywydau’r bobl sy’n byw yno a ledled Cymru.
Mae’r Adroddiad yn amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r Brifddinas-Ranbarth – i’r bobl, y cymunedau, busnesau, llywodraeth ac i amrywiaeth eang o grwpiau eraill. Rhestrir y cyfleoedd hynny o dan bedair prif thema:
- Cysylltedd (digidol a ffisegol)
- Sgiliau
- Arloesi a thwf
- Hunaniaeth.
Mae’r Adroddiad yn cynnwys argymhellion arwyddocaol sydd â goblygiadau hirdymor. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud pethau’n iawn, ac yn hynny o beth mae tri mater penodol y dylid rhoi sylw iddynt ar unwaith.
Yn gyntaf, rwy’n cydnabod bod y Bwrdd wedi siarad ag amrywiaeth o randdeiliaid wrth gasglu gwybodaeth cyn llunio’r Adroddiad. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd y materion a godir, byddwn yn croesawu barn yr Aelodau ynghylch canfyddiadau’r Adroddiad.
Yn ail, a ninnau bellach wedi sefydlu gweledigaeth ar lefel uchel, mae angen bod yn fwy eglur wrth drosi’r weledigaeth honno yn brosiectau a fydd yn gwneud gwir wahanieth. Byddaf yn trafod hyn gyda Chadeirydd y Bwrdd.
Yn drydydd, mae i’r Adroddiad oblygiadau ehangach sy’n mynd y tu hwnt i bortffolio’r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae yma ystyriaethau o bwys o ran y system gynllunio a diwygio gwasanaethau datganoledig ehangach. O ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at fy Nghyd-aelodau o’r Cabinet, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweindog Cyfoeth Naturiol, i geisio’u barn nhw. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth inni fwrw ymlaen â’r agenda hon. Mae copi o’r Adroddiad ar gael ar lein.