Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

r 8 Mawrth 2011, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol ddatganiad ynghylch y cymorth a roddir i bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C a/neu HIV drwy drallwysiadau gwaed a chynhyrchion gwaed halogedig a gyflenwyd gan y GIG. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru i adolygu a chyflwyno adroddiad ar wasanaethau i bobl ag anhwylderau gwaedu etifeddol.

Mae rheoli cleifion sydd ag anhwylderau gwaedu etifeddol yn effeithiol yn gymhleth ac mae’n golygu darparu gofal cynhwysfawr gan dîm o broffesiynolion gofal iechyd gyda sgiliau amrywiol. Ystyriodd y Grŵp felly ystod o faterion a godwyd gan grwpiau o gleifion ar gynllunio a chyflenwi diagnosis, triniaeth a gwasanaethau cymorth, gan gynnwys ffisiotherapi, cwnsela a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, i bobl sydd ag anhwylderau gwaedu etifeddol yng Nghymru.

Amgaeir copi o’r adroddiad er gwybodaeth i chi.

Gwnaeth yr Adolygiad nifer o argymhellion. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £96,369 o arian ychwanegol yn gylchol i gefnogi gwasanaethau cwnsela i’r rhai sydd ag anhwylderau gwaedu etifeddol. Hwn oedd un o’r prif argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad.

Mae Byrddau Iechyd Lleol wedi cael copi o’r adroddiad i helpu i gefnogi a llywio eu gwaith cynllunio gwasanaethau mewn perthynas â darparu gwasanaethau.

Yn olaf, yn ogystal â’r pecyn o fesurau cyhoeddwyd gan y Gweinidog blaenorol, rwyf wedi cytuno i ariannu’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C am y tair blynedd nesaf er mwyn darparu gwasanaethu cwnsela penodedig i unigolion a ddaliodd hepatitis C a/or HIV trwy waed a’u dibynyddion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i wella darparu gwasanaethau i’r unigolion hynny sydd â haemoffilia ac rwyf yn siŵr y byddwch yn croesawu’r cymorth ychwanegol hwn.