Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 fe ofynnodd y cyn-Weinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, a ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol foderneiddio. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Hydref 2012 er mwyn adolygu’r trefniadau a chyflwyno argymhellion iddo ar sut i gyflawni hyn. Cadeirydd y Grŵp oedd Roy Noble.
Mae’r Adroddiad ac Argymhellion a gyhoeddir heddiw yn adlewyrchu canfyddiadau gwaith y Grŵp. Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n gwneud nifer o argymhellion pwysig. Byddwn nawr yn ystyried yr argymhellion gan ymateb yn llawn maes o law.
Yn y cyfamser hoffwn fynegi ein diolch i Roy Noble ac i aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am eu holl waith yn llunio’r Adroddiad ac Argymhellion:
- Roy Noble, Cadeirydd
- Peter Florence
- Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC
- Eirlys Pritchard Jones
- Sioned Wyn Roberts
- Nia Parry
- Bethan Elfyn
- Aran Jones
- John Pritchard
- Ali Yassine
- Sian Eirian
Mae'r ddolen ar gael ar-lein.