Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 9 Gorffennaf 2012, cyhoeddwyd adolygiad o faes Cymraeg i Oedolion. Prif nod rhaglen Cymraeg i Oedolion yw darparu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn eu cymunedau lleol, eu gweithleoedd neu gyda’u teuluoedd, er mwyn eu galluogi i ddefnyddio’r iaith a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o weld yr iaith yn ffynnu.
Gofynnwyd i’r grŵp adolygu, o dan gadeiryddiaeth Dr Haydn Edwards, i ystyried sut y gellir gwella darpariaeth a strwythurau Cymraeg i Oedolion, ac yn benodol i adolygu’r ddarpariaeth yn nhermau cyrhaeddiad dysgwyr, cynnwys cwricwlaidd, strwythurau darparu a gwerth am arian.
Mae’r grŵp adolygu bellach wedi gorffen ei waith ac wedi cyflwyno adroddiad manwl ac argymhellion, yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw, ar gyfer y ffordd ymlaen i faes Cymraeg i Oedolion. Byddaf yn ystyried yr argymhellion dros doriad yr haf ac yn cyhoeddi fy ymateb i’r adroddiad yn yr hydref.
Hoffwn ddiolch i Dr Haydn Edwards, ac aelodau eraill y grŵp adolygu am eu gwaith ac am gyflwyno adroddiad ac argymhellion cynhwysfawr ar gyfer y dyfodol.