Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, rwy’n falch o gael cyhoeddi trydydd adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sy’n ymdrin ag argymhellion ar gyfer diwygio cyflog ac amodau athrawon o fis Medi 2021.
Hoffwn ddiolch i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru am gynhyrchu adroddiad mor fanwl a chynhwysfawr, a hynny er gwaethaf yr anawsterau a’r anhrefn achoswyd gan y pandemig.
Mae Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn gwneud 12 prif argymhelliad, ac mae’n fwriad gennyf i dderbyn pob un mewn egwyddor, gan anelu at eu gweithredu o 1 Medi. Mae rhestr lawn o argymhellion yr Adroddiad yn Atodiad A. Yn fyr, mae’r rhain yn cynnwys:
- Uwchraddio’r holl raddfeydd cyflog a lwfansau o 1.75%;
- Egluro a/neu adolygu’r polisi mewn perthynas â thelerau ac amodau penodol sydd eisoes yn bodoli.
Mae manylion yr ystodau cyflog newydd i athrawon yn Atodiad B.
Cyflog
Mae’n gyfnod ansicr iawn. O gofio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi cyflog yn y sector cyhoeddus, ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw gyllid ychwanegol drwy fformiwla Barnett ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus yn 2021-22, ac eithrio’r GIG a’r rheini ar y cyflog isaf.
Penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hwn, ond mae canlyniadau uniongyrchol i’r penderfyniad hwnnw yng Nghymru.
Mae cyflog athrawon yn elfen sylweddol o gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol, ac rwy’n ymwybodol iawn o’r gwahanol bwysau sydd ar gyllidebau ar hyn o bryd, o bob cyfeiriad. Costau llawn y cynigion hyn fydd £14.87m yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd rhaid canfod hyn o gyllidebau presennol yr awdurdodau lleol. Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw dyfarniadau cyflog posibl y sector cyhoeddus mewn cof wrth gynllunio cyllidebau eleni, yn sgil y cynnydd ariannol o £176m sydd yn y setliad llywodraeth leol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
Telerau ac amodau
Rwy’n croesawu’r argymhellion mewn perthynas â thelerau ac amodau ar gyfer athrawon.
Ers datganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon, rydym wedi torri cwys ein hunain yng Nghymru, drwy gyflwyno nifer o newidiadau allweddol, fel dilyniant cyflog ar sail profiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol. Rwy’n croesawu sylwadau Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar y materion hyn, ac rwy’n bwriadu rhoi’r eglurhad ar y materion yr holwyd amdanynt.
Rwyf hefyd yn derbyn yr argymhellion mewn perthynas â’r angen am ymchwil pellach a bod angen i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr. Mae’n hanfodol bod system genedlaethol yn cael ei datblygu yma, sy’n arbennig i Gymru ac sydd nid yn unig yn gwella’r system ond yn creu system decach sy’n fwy tryloyw i’r holl athrawon.
Y camau nesaf
Nawr, byddaf yn croesawu sylwadau ysgrifenedig gan y prif randdeiliaid ar y canlynol: adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru; fy ymateb i’r prif argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru; a’r cynnydd arfaethedig i gyflogau athrawon.
Atodiad A
Mae’r tabl canlynol yn cynnwys yr holl argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, fel y’u cyhoeddwyd yn ei Drydydd Adroddiad ar 11 Mehefin 2021, yn ogystal â fy ymateb.
Mae Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru wedi argymell:
Rhif |
Argymhelliad |
Ymateb arfaethedig/y camau gweithredu gofynnol |
---|---|---|
1 |
Argymhellwn y dylid cynyddu pob pwynt graddfa statudol ar bob graddfa gyflog, a phob lwfans, 1.75% yng nghyd-destun chwyddiant cyfredol a rhagamcanol CPI. |
1. Derbyn a diwygio’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).
|
2 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru egluro'r gwahaniaeth rhwng pennaeth gweithredol a phennaeth yn yr STPCD(C). |
Ar hyn o bryd, nid oes diffiniad cyfreithiol o bennaeth gweithredol oherwydd bod y rolau a’r cyfrifoldebau’n amrywio, felly:
Golygu’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) er mwyn i’r gwahaniaeth rhwng pennaeth sy’n gyfrifol am 1 ysgol neu fwy nag un ysgol fod yn fwy eglur;
Comisiynu astudiaeth o’r rolau amrywiol sydd gan bennaeth, gan gynnwys darparu diffiniadau ffurfiol i roi eglurder ar deitlau swydd fel “pennaeth gweithredol”. |
3 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gynghori cyrff llywodraethu ysgolion i roi ystyriaeth lawn i gyd-destun a chymhlethdod eu sefydliad wrth osod y cyflog ar gyfer penaethiaid sy'n atebol am fwy nag un ysgol, gan ddefnyddio'r pwerau disgresiynol sydd ar gael iddynt yn STPCD(C). |
Ysgrifennu at gyflogwyr yn tynnu sylw at yr adran briodol yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru). |
4 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru atgoffa cyrff llywodraethu ysgolion o'u cyfrifoldeb statudol i gytuno polisi cyflog blynyddol i'w hysgol, sy'n cynnwys datganiad am strwythur staffio'r ysgol a'r swyddi sy'n denu taliadau CAD ac i ymgynghori â'r staff ynghylch y polisi cyflog hwn, a'i rannu gyda nhw. |
Ysgrifennu at gyflogwyr yn tynnu sylw at yr adran briodol yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru). |
5 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ar newid yn y ddarpariaeth yn STPCD(C) i ganiatáu i athrawon rhan-amser dderbyn taliadau CAD1 a CAD2 amser llawn, gan gynnwys y gallu i ysgolion ddefnyddio'u disgresiwn eu hunain wrth wneud dyfarniadau o'r fath. |
Cynnwys hyn fel rhan o’r adolygiad cynhwysfawr yn Argymhelliad 8 isod. |
6 |
Argymhellwn i Lywodraeth Cymru y dylid cynnwys y diffiniad o hygludedd cyflog mewn set o egwyddorion gorfodol a disgresiynol i'w hymgorffori yn y STPCD(C) o fis Medi 2021. |
Derbyn a’i gynnwys yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) newydd. |
7 |
Argymhellwn y dylid ymgymryd â gwaith, ochr yn ochr â gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru), i bennu sut dylid cydnabod Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ariannol. |
Cynnwys hyn fel rhan o’r adolygiad cynhwysfawr yn Argymhelliad 8 isod |
8 |
Argymhellwn i Lywodraeth Cymru, yng ngoleuni'r uchelgeisiau ar gyfer addysg yng Nghymru, cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, a’r gwersi a ddysgwyd o’r pandemig, y dylid ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr er mwyn sicrhau bod strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr yn cwmpasu’r dyheadau at y dyfodol. |
Comisiynu Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i gynnal adolygiad (gan gynnwys y lwfansau y sonnir amdanynt yn 5 a 7 uchod). |
9 |
Argymhellwn, yn y cyhoeddiad nesaf o’r STPCD(C), y dylai Llywodraeth Cymru egluro sefyllfa'r raddfa pum pwynt; dilyniant cyflog a pherfformiad; a dilyniant cyflog ar yr YCU, fel yr argymhellwyd yn adroddiad 2020 yr IWPRB. |
Derbyn a’i gynnwys yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) newydd. |
10 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ar fyrder y ffordd y caiff deddfwriaeth cydraddoldeb ei monitro a'i hadrodd ar lefel ysgol ac awdurdod lleol, ac ystyried a oes angen newidiadau i’r STPCD(C) a pholisïau cyflog ysgolion, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb. |
LlC i ystyried hyn ac ysgrifennu at gyflogwyr pan fo angen gwneud hynny. |
11 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r arweiniad sydd ar gael i lywodraethwyr ysgol am gyflog ac amodau a chyhoeddi llawlyfr llywodraethiant sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. |
LlC i ystyried y canllawiau presennol a rhoi diweddariad i Gyrff Llywodraethu pan fo angen gwneud hynny. |
12 |
Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso trefniadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar bolisi cyflog enghreifftiol ar lefel genedlaethol, gan ddileu'r angen felly i'r gwaith hwn gael ei ailadrodd ar draws consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. |
LlC i hwyluso trefniadau ar gyfer helpu sefydliadau cyflogwyr i symud gwaith ar fodel polisi cyflog ymlaen yn y dyfodol, a hynny ar lefel genedlaethol. |
Mewn egwyddor, rwy’n bwriadu derbyn yr holl argymhellion a restrir uchod (A1-A12) gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Atodiad B
Pwyntiau graddfeydd cyflog a argymhellir ar gyfer 2021-2022
Pwynt graddfa | 2020 | 2021 |
---|---|---|
M2 (isafswm) | £27,018 | £27,491 |
M3 | £29,188 | £29,699 |
M4 | £31,436 | £31,986 |
M5 | £33,912 | £34,505 |
M6 | £37,320 | £37,973 |
Pwynt graddfa | 2020 | 2021 |
---|---|---|
U1 | £38,690 | £39,367 |
U2 | £40,124 | £40,826 |
U3 | £41,604 | £42,332 |
Pwynt graddfa | 2020 | 2021 |
---|---|---|
1 | £18,169 | £18,487 |
2 | £20,282 | £20,637 |
3 | £22,394 | £22,786 |
4 | £24,507 | £24,936 |
5 | £26,622 | £27,088 |
6 | £28,735 | £29,238 |
2020 | 2021 |
---|---|
£42,402 - £64,461 | £43,144 - £65,589 |
Math o lwfans | 2020 | 2021 |
---|---|---|
TLR1 | £8,291 - £14,030 | £8,436 - £14,276 |
TLR2 | £2,873 - £7,017 | £2,923 - £7,140 |
TLR3 | £571 - £2,833 | £581 - £2,883 |
ALN | £2,270 - £4,479 | £2,310 - £4,557 |
Pwynt graddfa | 2020 | 2021 |
---|---|---|
1 | £42,195 | £42,933 |
2 | £43,251 | £44,008 |
3 | £44,331 | £45,107 |
4 | £45,434 | £46,229 |
5 | £46,566 | £47,381 |
6 | £47,735 | £48,570 |
7 | £49,019 | £49,877 |
8 | £50,151 | £51,029 |
9 | £51,402 | £52,302 |
10 | £52,723 | £53,646 |
11 | £54,091 | £55,038 |
12 | £55,338 | £56,306 |
13 | £56,721 | £57,714 |
14 | £58,135 | £59,152 |
15 | £59,581 | £60,624 |
16 | £61,166 | £62,236 |
17 | £62,570 | £63,665 |
18* | £63,508 | £64,619 |
18 | £64,143 | £65,266 |
19 | £65,735 | £66,885 |
20 | £67,364 | £68,543 |
21* | £68,347 | £69,543 |
21 | £69,031 | £70,239 |
22 | £70,745 | £71,983 |
23 | £72,497 | £73,766 |
24* | £73,559 | £74,846 |
24 | £74,295 | £75,595 |
25 | £76,141 | £77,473 |
26 | £78,025 | £78,025 |
27* | £79,167 | £80,552 |
27 | £79,958 | £81,357 |
28 | £81,942 | £83,376 |
29 | £83,971 | £85,440 |
30 | £86,061 | £87,567 |
31* | £87,313 | £88,841 |
31 | £88,187 | £89,730 |
32 | £90,379 | £91,961 |
33 | £92,624 | £94,245 |
34 | £94,914 | £96,575 |
35* | £96,310 | £97,995 |
35 | £97,273 | £98,975 |
36 | £99,681 | £101,425 |
37 | £102,159 | £103,947 |
38 | £104,687 | £106,519 |
39* | £106,176 | £108,034 |
39 | £107,239 | £109,116 |
40 | £109,914 | £111,837 |
41 | £112,660 | £114,632 |
42 | £115,483 | £117,504 |
43 | £117,197 | £119,248 |
* Y pwyntiau hyn a phwynt 43 yw’r uchafswm cyflogau ar gyfer yr wyth o ystodau grŵp penaethiaid.