Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i gyhoeddi Ail Adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) heddiw, sy'n cynnwys argymhellion ar gyfer gwelliannau i gyflog ac amodau athrawon o fis Medi 2020  (https://llyw.cymru/corff-adolygu-cyflogau-annibynnol-cymru-ail-adroddiad-2020).

Rwy'n croesawu'r adroddiad, sy'n darparu dadansoddiad manwl a chynhwysfawr o'r materion presennol ac yn cynnig cyngor adeiladol ar gyfer y tymor byr a'r tymor hirach. Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd a'r Aelodau am eu hymdrechion, yn arbennig yn y cyfnod heriol sydd ohoni.

Mae'r IWPRB yn gwneud 7 prif argymhelliad. Rwy'n derbyn pob un ohonynt mewn egwyddor, ac yn anelu i'w rhoi ar waith o 1 Medi ymlaen. Ceir rhestr lawn o argymhellion yr Adroddiad yn Atodiad A. Yn fras, maent yn cynnwys y canlynol:

  • Argymhelliad 1, sy’n ymdrin ag uwchraddio cyfraddau cyflog – gan gynnwys cynnydd arfaethedig o 8.48% ar gyfer y rhai ar isafswm y Prif Ystod Cyflog
  • Argymhellion 2 a 3, sy’n cynnig ailgyflwyno graddfeydd cyflog cenedlaethol, gyda chynyddrannau cyflog blynyddol yn seiliedig ar brofiad yn hytrach na pherfformiad
  • Argymhellion 4-6, sy’n ymdrin â hyblygrwydd presennol o fewn y system.
  • Argymhelliad 7 sy’n ymwneud ag ystyriaethau i'w trafod yn y tymor hirach.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo o hyd i’r egwyddor ‘dim niwed’ wrth i ni ddefnyddio ein cyfrifoldebau datganoledig am yr ail waith yn unig. Rwyf felly am ymgynghori ar sail uwchraddio cyflog athrawon Cymru am gost gyffredinol o 3.1%. Rwy’n gwneud hynny gan gydnabod bod hyn yn mynd tu hwnt i argymhellion yr IWPRB a fyddai gyda’i gilydd wedi cynyddu’r costau 3.0%.

Rwyf felly’n cynnig codi’r ystodau cyflog ar gyfer arweinwyr ysgolion, athrawon heb gymhwyso ac ymarferwyr arweiniol, yn ogystal â lwfansau athrawon, 2.75% yn hytrach na’r 2.5% a argymhellwyd gan yr IWPRB.

Yn fwy penodol ynghylch cyflog athrawon, mae'r IWPRB yn argymell:

  • codi'r cyflog cychwynnol i athrawon newydd yng Nghymru i dros £27k
  • athrawon ar y Prif Ystod Cyflog ar hyn o bryd i dderbyn o leiaf 3.75% o godiad cyflog 
  • athrawon ar yr Uwch Raddfa Gyflog i dderbyn o leiaf 2.75% o godiad cyflog
  • cyflwyno ystod cyflog 5 pwynt newydd statudol er mwyn i athrawon newydd symud ymlaen at yr uchafswm yn y Prif Ystod Cyflog mewn 4 blynedd, hy  £37,320.

Rwy’n bwriadu ychwanegu’r mesurau canlynol at argymhellion yr IWPRB:

  • ystod cyflog Arweinwyr Ysgolion i gael codiad o 2.75%
  • lwfansau athrawon a phob ystod cyflog arall i gael codiad o 2.75%.

Mae manylion yr ystodau cyflog newydd ar gyfer athrawon yn Atodiad B.

Mae’r argymhellion yn darparu rhai mesurau allweddol sy’n amlygu sut rydym yn disgwyl i gyflog ac amodau athrawon ddatblygu yma yng Nghymru ar ôl datganoli’r pwerau hyn. Un enghraifft yw disodli’r system or-fiwrocrataidd ac aneffeithiol flaenorol o gynnydd cyflog i system sy’n seiliedig ar brofiad. Bydd yn darparu system gyflog llawer tecach a mwy thryloyw ar gyfer yr holl athrawon.

Mae'r cynnydd cyffredinol mewn costau ar gyfer y dyfarniad cyflog yn cyfateb yn fras i'r cyllid a amcangyfrifwyd yn flaenorol at y diben hwn. Disgwylid y byddai'r costau uwch hyn yn cael eu diwallu o'r cynnydd mewn cyllid a neilltuir i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw, ynghyd â darpariaeth o bwerau codi refeniw yr awdurdodau lleol eu hunain.  Yn sgil y pandemig, byddwn yn trafod y goblygiadau cyllid gydag awdurdodau lleol i sicrhau na fydd cyllidebau ysgolion yn cael eu heffeithio’n andwyol gan y newidiadau yma.

Hoffwn bwysleisio unwaith eto ein bod yn benderfynol yn ein hymdrechion i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn atyniadol i raddedigion a'r rhai sy'n ystyried newid gyrfa. Rwy'n credu y bydd y newidiadau hyn i gyflog ac amodau yng Nghymru yn cael effaith gadarnhaol i sicrhau ein bod yn parhau i ddenu athrawon o ansawdd uchel i'r proffesiwn, wrth ochr ein diwygiadau i ddysgu proffesiynol, y cwricwlwm a hyfforddi athrawon.

Byddaf yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol yn awr i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar: adroddiad yr IWPRB; fy ymateb i brif argymhellion yr IWPRB; a’r cynnydd arfaethedig i gyflog athrawon.