Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n ysgrifennu i hysbysu aelodau bod swyddogion Llywodraeth Cymru newydd gwblhau gwerthusiad llawn a chadarn o’r tendr er mwyn dewis Cynigydd a Ffefrir ar gyfer y cyntaf o gynlluniau Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru – prosiect Adrannau 5 a 6 A465 Blaenau’r Cymoedd.  Adrannau 5 a 6  (y darn 18km rhwng Dowlais Top, Merthyr Tudful a Hirwaun) yw darnau mwyaf gorllewinol y rhaglen ddeuoli ac maent ar hyn o bryd yn dal i fod yn ffyrdd unffrwd.

Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi bod Future Valleys (FCC, Roadbridge, Meridiam, Alun Griffiths (Contractors) ac Atkins) wedi’i benodi’n Gynigydd a Ffefrir.

Consortiwm yw Future Valleys sy’n cynnwys cwmnïau adeiladu rhyngwladol mawr ynghyd â buddsoddwyr ariannol sydd wedi hen ennill eu plwyf.  Mae gan bob un brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus – ar y cyd â chontractwyr a thimau dylunio o Gymru sy’n adnabod yr ardal a’r gadwyn gyflenwi leol.

Mae penodi Cynigydd a Ffefrir yn garreg filltir bwysig.  Gyda cham olaf y broses gaffael bellach yn dechrau o ddifri’, i'w gwblhau erbyn diwedd Hydref 2020, y prosiect hwn fydd maes o law yn cwblhau’r gwaith o ddeuoli’r A465 gan greu darn pwysig o seilwaith economaidd.  Mewn Cymru ar ôl Covid-19 a Brexit, mae gan ddeuoli A465 Blaenau’r Cymoedd y potensial i sicrhau twf economaidd a fydd yn hanfodol i bobl Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y rhanbarth i sicrhau ei fod yn rhan gystadleuol a chysylltiedig o economi’r DU a bydd yn parhau i wneud.

Rwy’n disgwyl i’r prosiect arwain at ryw £400m o wariant uniongyrchol yng Nghymru, gan ychwanegu dros £675 at werth economi ehangach Cymru.  Rwy’n disgwyl gweld £170m o wariant hefyd yn y gadwyn gyflenwi leol gan gefnogi amcanion tasglu’r Cymoedd. Bydd y lefel hon o fuddsoddi’n hanfodol wrth i’r economi ymadfer ar ôl heriau pandemig Covid-19.

Yn ogystal, mae prosiectau deuoli’r A465 sydd wedi’u cwblhau wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran sicrhau amrywiaeth o fanteision cymunedol, gan gynnwys prentisiaethau a hyfforddiant, gwaith i bobl a busnesau lleol, gwariant gyda chwmnïau o Gymru, cydweithio ag ysgolion a cholegau lleol a chefnogi grwpiau a digwyddiadau cymunedol.  Rwy’n disgwyl i’r prosiect hwn fod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus o ran manteision cymunedol.