Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 ('Deddf 1984') yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at y diben o atal, diogelu yn erbyn, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chan ddefnyddio'r pwerau o dan adran 45C Deddf 1984, rwyf heddiw wedi gosod gerbron y Senedd reoliadau mewn ymateb i'r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad Covid 19.
Daw'r Rheoliadau i rym ar 11 Rhagfyr a byddant yn dod i ben ar 11 Ionawr 2021.
Mae'r Rheoliadau yn atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodedig, mynd i dŷ annedd at ddibenion gweithredu gwrit neu warant meddiannu, gweithredu gwrit neu warant adferiad neu i roi hysbysiad troi allan. Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo'r llys wedi'i fodloni bod yr hawliad yn erbyn tresmaswyr sy'n bersonau anhysbys neu lle cafodd ei wneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau difrifol, niwsans, trais domestig neu, mewn achosion lle mae'r person sy'n bresennol wedi'i fodloni bod y tŷ annedd yn wag, farwolaeth y preswylydd.
Diben y Rheoliadau yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o denantiaid yn cael eu troi allan yn ystod cyfnod y Nadolig a chanol y gaeaf. Gyda mynediad at wasanaethau a llety amgen yn aml yn gyfyngedig yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy o risg y bydd troi allan yn arwain at ddigartrefedd, sydd yn ei dro yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo. Mae'r Rheoliadau'n gwneud cyfraniad pwysig at ddiwallu'r angen brys hwnnw. Byddant yn dod i rym ar 11 Rhagfyr 2020 ac yn dod i ben ar 11 Ionawr 2021.
Gellir gweld copi o'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yma ac yma.