Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae Adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (‘Deddf 1984’) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chan ddefnyddio’r pwerau o dan Adran 45C o Ddeddf 1984, rwyf heddiw wedi gosod gerbron y Senedd reoliadau mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd yn sgil mynychder a lledaeniad Covid 19.
Daw’r Rheoliadau i rym ar 11 Ionawr, a dônt i ben ddiwedd y dydd 31 Mawrth 2021.
Mae’r Rheoliadau yn atgynhyrchu cynnwys Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020 sy’n dod i ben ar 11 Ionawr, ac yn atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodedig, bod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer neu ddanfon hysbysiad troi allan. Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo'r llys wedi'i fodloni bod: yr hawliad yn erbyn tresmaswyr sy'n bersonau anhysbys; neu pan wneir y gorchymyn adennill meddiant yn llwyr neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau difrifol, niwsans, trais domestig; neu, mewn achosion lle mae'r person a fydd yn mynd yno wedi'i fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi’i feddiannu ar yr adeg pan fydd yno, ac y gwneir y gorchymyn adennill meddiant yn llwyr neu’n rhannol ar sail marwolaeth y meddiannydd.
Diben y Rheoliadau yw cyfrannu at ymateb iechyd y cyhoedd i’r coronafeirws drwy atal pobl rhag cael eu troi allan ac eithrio yn yr amgylchiadau mwyaf difrifol. Mae effaith troi pobl allan a digartrefedd ar fynychder a lledaeniad Covid 19 yn dal i fod o bryder mawr. Mae digartrefedd yn rhoi pobl mewn sefyllfaoedd lle maent mewn perygl llawer mwy o ddal y feirws ac o’i drosglwyddo i eraill. Efallai bod y cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 presennol yn ei gwneud yn anoddach i’r rheini sy’n wynebu cael eu troi allan gael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyngor a chymorth, gan fod sefydliadau ar gau efallai neu’n gweithredu ar sail capasiti cyfyngedig. Efallai ei bod yn anoddach yn ymarferol sicrhau llety amgen hefyd, sydd eisoes yn fwy cyfyngedig yn ystod y gaeaf. Mewn sefyllfa lle mae lefel trosglwyddo’r feirws yn gyffredin ac yn cynyddu o fewn y gymuned, ac o ystyried y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, mae’n dal i fod yn fwy tebygol nag arfer y bydd troi pobl allan yn arwain at ddigartrefedd.
Bydd y Rheoliadau yn cael eu hadolygu’n rheolaidd yn ystod cyfnod eu gweithredu i sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn parhau i fod yn gymesur. Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf rhwng yr adeg pan ddaw’r Rheoliadau i rym a 28 Ionawr 2021 er mwyn bod yn gydnaws ag amseru’r adolygiadau a nodir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Yna rhaid eu hadolygu o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod tair wythnos wedi hynny.
Mae copi o’r Rheoliadau a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w weld yma ac yma.