Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (‘y Rheoliadau’) yn gorfodi cyfyngiadau ar gynulliadau, ar symudiadau pobl, ac ar weithrediaeth busnesau, gan gynnwys cau busnesau, yng Nghymru. Maent hefyd yn gorfodi gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unigolion yn cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Gwnaed hyn er mwyn diogelu pawb rhag lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). 

O dan reoliad 3(2) mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am ofynion a chyfyngiadau yn y rheoliadau, a’u cymesuredd, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhaliwyd y pedwerydd adolygiad ar 18 Mehefin.  

Mae’r adolygiad wedi’i seilio ar y dystiolaeth feddygol a gwyddonol am y coronafeirws yng Nghymru – gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) y Deyrnas Unedig a Chell Cyngor Technegol Cymru, ac ar gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.  

Y cyngor clir a gafwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, SAGE a’r Gell Cyngor Technegol yw y gall addasu mesurau’r cyfyngiadau gael effaith gynyddol, ac y dylid mynd ati’n raddol felly, gan fonitro’r sefyllfa yn ofalus. Dyna’n union beth yr ydym ni wedi’i wneud yn yr adolygiadau blaenorol, a dyna beth rydym ni am ei wneud y tro hwn hefyd. 

Wrth adolygu’r rheoliadau, rydym wedi ystyried yn ofalus pa effaith y mae’r rheoliadau a’r cyfyngiadau wedi’i chael ar y feirws a throsglwyddiad y feirws yng Nghymru hyd yma. Mae cyfradd atgynhyrchu’r feirws (R) yn parhau i fod o dan un.

Mae nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws a gadarnhawyd wedi lleihau yn gyson ers cyrraedd brig yr achosion ym mis Ebrill, ac mae llai na 100 o achosion newydd wedi bod bob dydd yn ystod mis Mehefin. Mae’r nifer o bobl sydd yn yr ysbyty oherwydd coronafeirws yn parhau i ostwng ac ar hyn o bryd mae 33 o bobl mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru yn cael triniaeth ar gyfer coronafeirws - mae hyn 80% yn is nag ym mis Ebrill.

Mae nifer y marwolaethau sy’n cael eu hadrodd bob dydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn is nag yr oedd yr adeg hon dair wythnos yn ôl, ac mae ar ei isaf ers dechrau’r cyfyngiadau symud. Mae ffigurau wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y nifer o farwolaethau yn ymwneud â coronafeirws wedi gostwng yn wythnosol ers chwe wythnos.

Mae’r GIG yn dechrau mynd ati i gynnig gwasanaethau rheolaidd eto ac rydym wedi cyflwyno system olrhain cysylltiadau ar draws Cymru, gan ein galluogi i adnabod ac ynysu achosion newydd o’r coronafeirws yn gyflym.

Cyngor clir y Prif Swyddog Meddygol yw y dylem fanteisio ar fisoedd yr haf lle ceir mwy o gyfleoedd i fod yn yr awyr agored, ac y dylem symud yn raddol tuag at leihau effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y pandemig.

Mae’r holl bethau hyn, gyda’i gilydd, yn rhoi’r hyblygrwydd inni gyflwyno pecyn o fesurau i lacio’r cyfyngiadau mewn modd cymesur dros y tair wythnos nesaf ac i ystyried rhai camau pellach, os yw’r amodau’n parhau i wella.

Byddwn yn cyflwyno diwygiadau i’r rheoliadau o ddydd Llun 22 Mehefin i alluogi busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol i ailagor os ydynt yn gallu gweithredu pob mesur rhesymol i gydymffurfio â’r ddyletswydd i gadw pellter cymdeithasol, a fydd yn helpu i ddiogelu gweithwyr a chwsmeriaid rhag coronafeirws. Rwy’n ddiolchgar i bob busnes sydd wedi defnyddio’r tair wythnos diwethaf i baratoi.

I gefnogi mwy o bobl i ddychwelyd i’r gwaith, bydd cyfleusterau gofal plant yn ailagor yn raddol, ac yn gweithredu o dan ganllawiau newydd a ddatblygwyd gyda’r sector. I helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws, rydym yn gofyn i deuluoedd sicrhau bod plant yn mynd i un lleoliad gofal plant yn unig os yw hynny’n bosibl. Os yw plentyn yn mynd i fwy nag un lleoliad, fel ysgol neu leoliad gofal plant, dylent aros yn yr un grŵp bychan yn gyson yn y ddau leoliad.  

Mae’r dystiolaeth yn dangos mai am funudau yn unig y bydd coronafeirws yn goroesi ar arwynebau yn yr awyr agored. Oherwydd hyn, byddwn yn llacio’r cyfyngiadau ar gyrtiau chwaraeon awyr agored, ond nid ar gyfer chwaraeon cyswllt neu chwaraeon tîm. Dylid cadw pellter cymdeithasol bob amser.

Bydd newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i'r rheoliadau i alluogi athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol, fel y rhai sy'n gobeithio cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, i ailddechrau hyfforddi.

Byddwn ni’n cymryd y cam cyntaf tuag at ailagor ein marchnad dai drwy wneud newidiadau i ganiatáu i bobl fynd i weld eiddo gwag ac i bobl symud tŷ pan fo gwerthiant wedi'i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r sector i ystyried y camau nesaf ar gyfer y cylchoedd adolygu i ddod.

Byddwn ni hefyd yn cyflwyno newidiadau i ganiatáu gweddïo preifat mewn mannau addoli, cyhyd ag y cedwir pellter cymdeithasol ac nad yw pobl yn ymgynnull. Rwy'n ddiolchgar am y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud gydag arweinwyr ffydd ers mis Ebrill sydd wedi arwain at ddatblygu'r canllawiau.

Yn nes ymlaen heddiw, byddaf yn gwneud Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020, a fydd yn adlewyrchu’r newidiadau deddfwriaethol yr wyf wedi’u nodi yma ac a fydd yn galluogi’r newidiadau hyn i ddod i rym ddydd Llun.

Ddydd Llun 29 Mehefin, bydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol, o dan y cynlluniau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Gweinidog Addysg, i gael ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

Rhaid inni barhau i fod yn ofalus. Er bod lledaeniad yr haint yn lleihau, mae’r coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Rydym felly’n parhau i’w gwneud yn ofynnol i bobl aros yn eu hardal leol oni bai bod esgus rhesymol i deithio ymhellach; i gwrdd ag aelodau dim ond un cartref arall y tu allan ac i rai busnesau, megis tafarndai a bwytai, aros ynghau am y tro.

Ond gan fod y sefyllfa’n gwella, byddwn ni'n adolygu'r gofyniad i aros yn lleol ymhen pythefnos ar 6 Gorffennaf. Byddwn i'n annog cymunedau lleol, awdurdodau lleol ac atyniadau awyr agored i ymwelwyr i ddefnyddio'r cyfnod hwn i baratoi ar gyfer ailagor. Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei seilio ar y dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf a natur y feirws yng Nghymru.

Felly, bydd y gofyniad presennol i aros yn lleol, a pheidio â theithio mwy na phum milltir o'ch cartref yn gyffredinol, yn parhau mewn grym hyd nes y gwneir y penderfyniad hwnnw.

Serch hynny, byddwn ni'n ei gwneud yn glir bod teithio y tu hwnt i ardal leol rhywun yn cael ei ganiatáu ar sail dosturiol, er enghraifft i ymweld â pherthynas neu ffrind agos sydd angen cymorth neu i ymweld â rhywun yn yr awyr agored mewn cartref gofal neu mewn sefydliad troseddwyr ifanc – pan ganiateir ymweliadau. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau tramor, pan na ellir ond pleidleisio yn bersonol.

Wrth inni ddechrau ystyried yr adolygiad 21 diwrnod ffurfiol nesaf, a fydd yn cael ei gynnal ar 9 Gorffennaf, gofynnaf i rai busnesau ddechrau cymryd camau i baratoi nawr, rhag ofn y bydd yr amodau yn addas i wneud newidiadau pellach i'r rheoliadau.

Dyma'r meysydd penodol:

  • Paratoadau ar gyfer ailagor yr economi ymwelwyr, gan gynnwys llety heb gyfleusterau a rennir pan fo cadw pellter cymdeithasol yn bosibl.
  • Paratoadau ar gyfer ailddechrau gwasanaethau gofal personol drwy apwyntiad, gan gynnwys trin gwallt.

Dros y tair wythnos nesaf, bydd trafodaethau manwl yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector ynglŷn â'r opsiynau a'r camau graddol posibl i agor y sector lletygarwch – tafarndai, caffis, bwytai – o dan reolau cadw pellter cymdeithasol, ac os bydd lledaeniad y coronafeirws yn parhau i leihau.

Mae'r pecyn hwn yn nodi pwynt sylweddol yn y broses o lacio'r rheoliadau ac, mewn sawl agwedd ar fywyd bob dydd yng Nghymru, rydym yn symud i'r cam oren yn ein system goleuadau traffig. Mae modd inni wneud hyn diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru hyd yma i gydymffurfio â'r rheolau aros gartref ac aros yn lleol.

Mae angen i bawb barhau i gymryd camau i'w diogelu eu hunain a'u hanwyliaid wrth inni ddod o hyd i ffordd o fyw a gweithio ochr yn ochr â'r coronafeirws. Mae hyn yn golygu gweithio gartref pan fo modd; cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo'n aml. I rai pobl, gall hyn olygu gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai sefyllfaoedd, i eraill bydd yn golygu parhau i’w gwarchod eu hunain.

Hoffwn ddiolch i bawb am bopeth maent wedi'i wneud hyd yma. Diogelu Cymru gyda’n gilydd.