Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (‘y Rheoliadau’) yn gosod cyfyngiadau ar ymgynnull, ar symudiadau pobl, ac ar y ffordd y mae busnesau’n gweithredu, gan gynnwys eu cau. Maent yn gosod gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau pellter corfforol rhwng pobl. Mae hyn wedi’i wneud i helpu i warchod pawb rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
O dan reoliad 3(2) mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau bob 21 diwrnod. Roedd gofyn cynnal yr ail adolygiad erbyn 7 Mai.
Cynhaliwyd yr ail adolygiad hwn gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru. Er ein bod wedi mynd heibio penllanw cyntaf yr heintio a bod y cyfraddau’n parhau i ostwng, mae’n dal yn rhy fuan i godi’r gofynion a’r cyfyngiadau yn sylweddol.
Golyga hyn na fydd ysgolion yn agor yn ystod y tair wythnos nesaf, y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes yn cael ei ganiatáu o dan y Rheoliadau.
Mae cyfradd atgynhyrchu’r feirws yn parhau i ostwng. Mae’n is na’r gyfradd 1, lle byddem yn gweld twf cyflymach. Mae ein Gwasanaeth Iechyd wedi ymdopi’n dda ac yn parhau i gynyddu ei gapasiti. Mae cynlluniau ar waith i gynyddu’r gallu i brofi, monitro ac olrhain ac i sicrhau bod cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar gael o hyd. Bydd yr amodau hyn, gyda’i gilydd, yn caniatáu inni barhau i gymryd camau graddol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i lacio’r cyfyngiadau pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
Mae’r gwelliant yn y sefyllfa, a’r dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch trosglwyddiad y feirws, wedi golygu ein bod wedi gallu ystyried rhai newidiadau bychain i’r Rheoliadau, a fydd yn dod i rym ddydd Llun. Mae SAGE yn cynghori bod y perygl o heintio yn is yn yr awyr agored, ond bod rhaid cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a pheidio ag ymgynnull mewn grwpiau. O ystyried manteision sylweddol ymarfer corff i iechyd a lles pobl, rydym yn cyflwyno newidiadau i’r Rheoliadau i ganiatáu i bobl ymarfer fwy nag unwaith y dydd.
Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid ledled Cymru i gynllunio ar gyfer gweithgarwch ychwanegol a allai ddigwydd yn yr awyr agored os bydd pethau’n dal i wella. Caiff canolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cadw at y rheol pellter corfforol.
Dylai pobl sy’n gallu gweithio o gartref barhau i wneud hynny. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus, undebau llafur, busnesau, y trydydd sector ac eraill i helpu busnesau a gweithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref i wneud eu gwaith yn ddiogel.
Bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno i’r Rheoliadau i ganiatáu i bobl adael eu cartrefi i ddefnyddio rhai gwasanaethau cyhoeddus penodol; gan ddechrau â Chanolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu a llyfrgelloedd. Bydd angen dod i gytundeb â’r awdurdodau lleol a gweithredwyr y gwasanaethau ynghylch amseru’r newidiadau hyn, fel bod digon o amser ar gael i sefydlu canllawiau a phrotocolau.
Byddwn hefyd yn diwygio'r Rheoliadau i ddileu pŵer Gweinidogion Cymru i derfynu gofynion neu gyfyngiadau drwy gyfarwyddyd. Er mwyn sicrhau trosolwg ddemocrataidd briodol, bydd yn rhaid i’r holl newidiadau i'r prif Reoliadau gael eu dwyn gerbron y Senedd.
Byddwn yn parhau i adolygu’r Rheoliadau fel y gallwn ymateb i’r dystiolaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad y feirws, effeithlonrwydd y gofynion a’r cyfyngiadau, a’r lefelau cydymffurfio, cyn gynted ag y bo angen.
Y dull gweithredu gorau o hyd, yn ein barn ni, yw ymateb fel pedair gwlad wrth lacio’r cyfyngiadau ac rydym yn parhau i ymgynghori â phob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae gennym ddyletswydd i bobl Cymru a bydd ein penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac amgylchiadau sy’n benodol i Gymru.