Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (‘y Rheoliadau’) yn gorfodi cyfyngiadau ar gynulliadau, ar symudiadau pobl, ac ar weithrediaeth busnesau, gan gynnwys cau busnesau, yng Nghymru. Maent yn gorfodi gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unigolion yn cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Gwnaed hyn er mwyn diogelu pawb rhag lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). 

O dan reoliad 3(2) mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am ofynion a chyfyngiadau yn y Rheoliadau bob 21 o ddiwrnodau. Disgwylid y trydydd adolygiad erbyn 28 Mai.

Cynhaliom yr adolygiad hwn gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau'r DU (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru. Rydym wedi pasio’r brig cyntaf yn nifer yr achosion o’r haint ac mae’r cyfraddau yn parhau i ostwng. Fodd bynnag, gostyngiad graddol iawn yw hwn ac mae’n dal yn rhy gynnar i godi’r gofynion neu’r cyfyngiadau yn sylweddol, oherwydd byddai cryn risg o weld cynnydd yn y cyfraddau trosglwyddo unwaith yn rhagor. Y cyngor a gafwyd gan SAGE a Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru yw y gall addasu mesurau’r cyfyngiadau gael effaith gynyddol, ac y dylid mynd ati’n raddol felly, gan fonitro’r sefyllfa yn ofalus. Dyna’n union beth yr ydym ni’n bwriadu ei wneud. 

Mae cyfradd atgynhyrchu’r feirws (R) yn parhau i ostwng. Mae’n debygol o fod yn is na chyfradd o 1. Byddai unrhyw beth yn uwch na hyn yn golygu y byddem yn gweld cynnydd cyflymach a chyflymach yn lledaeniad y feirws. Mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi ymdopi’n dda ac mae’n parhau i feithrin capasiti ac ailddechrau cynnig gwasanaethau iechyd arferol. Mae cynlluniau ar waith i feithrin ein gallu i Brofi, Olrhain a Diogelu, ac i sicrhau bod Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn dal i fod ar gael. Bydd yr amodau hyn, o’u hystyried gyda’i gilydd, yn caniatáu inni barhau i gymryd camau graddol dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod i lacio’r cyfyngiadau pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.  

Ar sail y sefyllfa sy’n gwella a’r dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn â throsglwyddo’r feirws rydym wedi gallu ystyried rhai addasiadau i’r Rheoliadau a fydd yn dod i rym ddydd Llun. Gweithgareddau sy’n cael eu cynnal allan yn yr awyr agored yw’r rheini y gellir eu newid yn y ffordd fwyaf diogel. Dywed SAGE fod y risg o heintio yn sylweddol is yn yr awyr agored, yn enwedig mewn mannau lle ceir digon o awyr iach a heulwen. Ond nid yw risg is yn golygu nad oes unrhyw risg o gwbl, ac mae’n hanfodol bod pellter corfforol o 2 fetr yn cael ei gadw rhwng unigolion ac nad yw grwpiau mawr yn ymgynnull.

Rwy’n hynod ymwybodol o’r anawsterau a wynebwyd gan deuluoedd a ffrindiau sydd wedi gorfod ymwahanu o ganlyniad i’r cyfyngiadau. Rwy’n gwybod hefyd am y niwed a achosir oherwydd bod unigolion yn teimlo wedi’u hynysu a’r effaith ar ein lles a’n hiechyd meddwl ni i gyd. Gan fod ein hopsiynau yn gyfyngedig, rwyf wedi rhoi blaenoriaeth yn yr adolygiad hwn felly i ganiatáu i unigolion gyfarfod yn yr awyr agored, lle mae’r risg o heintio yn isel os bydd unigolion yn cadw pellter corfforol o 2 fetr rhyngddynt ag eraill.

Bydd diwygiadau yn cael eu cyflwyno i’r Rheoliadau i ganiatáu i aelodau dwy wahanol aelwyd gyfarfod allan yn yr awyr agored ar unrhyw adeg benodol. Bydd hyn yn cynnwys cyfarfod mewn ardaloedd preifat yn yr awyr agored, er enghraifft mewn gerddi. Fodd bynnag, rwyf am fod yn gwbl glir hefyd fod mwy o risg o ddal yr haint neu heintio eraill drwy wneud hyn a byddwn yn darparu canllawiau ar ragofalon y gellir eu cymryd i gadw’r risg honno mor isel â phosibl. 

Er mwyn caniatáu mwy o weithgareddau yn yr awyr agored, rydym hefyd yn diwygio’r gofyniad i ‘aros gartref’ i ‘aros yn lleol’. Golyga hyn cyn belled ag eich bod yn eich ardal leol a’ch bod yn yr awyr agored, ni fyddwch bellach yn gorfod cadw at y rhestr hir o gyfyngiadau sy’n weithredol ar hyn o bryd. Ond ni fyddwch yn cael cyfarfod aelodau o fwy nag un aelwyd yn yr awyr agored, a dylid dal ati i gadw pellter cymdeithasol a dilyn arferion hylendid da. Dylwn bwysleisio nad oes unrhyw newidiadau i’r rheolau ynglŷn â chyfarfod pobl eraill dan do, a dylai pobl sy’n gallu gweithio gartref ddal ati i wneud hynny.

Bydd yr un cyfyngiadau ag sy’n weithredol ar hyn o bryd yn dal i fod yn gymwys pan fydd unigolyn am deithio y tu hwnt i’w ardal leol. Byddwn yn darparu canllawiau i helpu pobl i ddeall sut i ddehongli ‘lleol’ yn y cyd-destun hwn, gan ddefnyddio canllaw o 5 milltir ond gan gydnabod bod hyblygrwydd i hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Rwy’n gwerthfawrogi nad yw hyn yn caniatáu i unigolion gyfarfod ag anwyliaid sy’n byw y tu hwnt i’w hardal leol oni bai eu bod yn gofalu am unigolyn agored i niwed. Byddaf yn ailystyried hyn yn ystod yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin. 

Er mwyn unioni un mater penodol yn ymwneud â’r cyfyngiadau presennol, byddaf yn cyflwyno mân ddiwygiad i’r rheoliadau i sicrhau y gellir cynnal priodasau a seremonïau partneriaethau sifil pan fo gan un o’r partneriaid salwch angheuol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda darparwyr Addysg Bellach i sicrhau bod dysgwyr sy’n gorfod cwblhau elfennau ymarferol o’u hastudiaethau yn gallu gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

Gofynnaf hefyd i fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol i ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i ddechrau paratoi i ailagor. Byddwn yn ailasesu a yw’r amgylchiadau’n iawn i’r busnesau hyn ailagor ar ôl edrych ar y cyngor meddygol a gwyddonol yn y cyfnod adolygu nesaf

Byddwn hefyd yn ailasesu’r opsiynau yn ymwneud â’r materion a ganlyn yn yr adolygiad nesaf ar 18 Mehefin:

  • Ailagor safleoedd awyr agored a reolir (ee marchnadoedd awyr agored, cyrtiau chwaraeon, ystafelloedd arddangos yn yr awyr agored, ac amgueddfeydd awyr agored)
  • Galluogi athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol i hyfforddi’n ddiogel, er enghraifft ein hathletwyr sy’n hyfforddi ar gyfer y Gemau Olympaidd
  • Ailagor y farchnad dai
  • Ailagor safleoedd manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn amodol ar ofynion cadw pellter corfforol (ee y stryd fawr)
  • Cynyddu’r capasiti ar gyfer gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi mwy o unigolion i ddychwelyd i’r gwaith.

Er mwyn hwyluso’r newidiadau hyn byddwn yn gweithio gyda gweithredwyr cludiant, awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau bod unigolion yn gallu teithio’n ddiogel a bod ein mannau cyhoeddus, fel y stryd fawr, yn hwyluso’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a fydd yn angenrheidiol am gryn amser eto. 

Bydd rhagor o wybodaeth am y cam nesaf ar gyfer ysgolion ac addysg bellach yn cael ei chyhoeddi yr wythnos nesaf.

Wrth wneud y newidiadau hyn, hoffwn bwysleisio bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom yn bersonol i gydnabod y risgiau yr ydym ni ein hunain, ein teuluoedd a’n cymunedau ehangach yn eu hwynebu o ganlyniad i’r feirws. Rhaid inni, bob un ohonom ni, weithredu gan ystyried a pharchu eraill a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r mesurau sy’n dal i fod ar waith. Meddyliwch beth y dylech chi ei wneud yn ogystal â beth y cewch chi ei wneud.

Rydym yn parhau i ffafrio ymateb pedair gwlad i’r camau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau, ac rydym yn parhau i ymgynghori â phob rhan o’r DU. I bobl Cymru y mae ein dyletswydd ni, a bydd ein penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar amgylchiadau penodol Cymru.