Neidio i'r prif gynnwy

GAN Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sylfeini unrhyw ddemocratiaeth yw ffiniau etholiadol teg ac annibynnol, sy’n creu wardiau etholiadol fel bod gan bob cymuned gynrychiolaeth deg a chyfartal.

Yn bwysig, dylid adolygu'r ffiniau hynny'n rheolaidd fel eu bod yn adlewyrchu natur gyfnewidiol cymunedau a'u poblogaethau.

Yng Nghymru, mae proses wedi bod ar waith dros y pedair blynedd diwethaf, i edrych ar wardiau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru – ar gyfer y 22 prif awdurdod lleol. Gall hyn hefyd gael effaith ganlyniadol ar ffiniau cynghorau tref a chymuned. Fodd bynnag, mae honno’n broses ar wahân ac yn wahanol i'r adolygiad presennol o ffiniau etholiadol Senedd y DU.

Dechreuwyd y broses o adolygu ffiniau llywodraeth leol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn 2016. Mae gan Weinidogion ddyletswydd o dan Ddeddf Democratiaeth Leol (Cymru) 2013 i sicrhau llywodraeth leol 'effeithiol a chyfleus' ledled Cymru. Roedd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn gyfrifol am edrych ar y ffiniau ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae wedi ymgynghori ar gyfres o gynigion ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.

Mae'r cynigion terfynol bellach yn cael eu cyflwyno i mi, fel Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i wneud penderfyniad arnynt.

Fy nod yw gwneud penderfyniadau am bob un o'r 22 o adolygiadau ffiniau erbyn diwedd Medi 2021, fel y gellir gwneud newidiadau mewn pryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

Cyn etholiadau'r Senedd, ysgrifennodd y cyn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol at yr Aelodau i'w hysbysu bod tri maes lle gofynnwyd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, o ganlyniad i'r lefel sylweddol o sylwadau a dderbyniwyd, gyflwyno gwybodaeth ychwanegol. Caerdydd, Sir y Fflint a Chaerffili yw'r ardaloedd hyn.

Gallaf gadarnhau bod y Comisiwn wedi darparu gwybodaeth ychwanegol a’i bod yn cael ei hystyried ar hyn o bryd. Bydd hyn yn helpu i lywio fy mhenderfyniadau ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau'r broses y byddaf yn ei dilyn i gyfleu penderfyniadau am bob ardal.

Er mwyn rhoi cymaint o amser ag sy’n bosibl i awdurdodau lleol baratoi ar gyfer etholiadau 2022, byddaf yn cyhoeddi’r penderfyniadau cyn gynted ag y cânt eu gwneud. Mae hyn yn golygu, o'r wythnos sy'n dechrau ar 21 Mehefin, y byddaf yn cyhoeddi'r set gyntaf o benderfyniadau ar yr adolygiadau. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud y penderfyniad am adolygiad Abertawe.

Bydd cyfres reolaidd o gyhoeddiadau am benderfyniadau o hynny ymlaen, rhwng nawr a diwedd mis Medi 2021.  Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi penderfyniadau yn ystod toriad yr haf.

Er mwyn rhoi eglurder a chysondeb, o'r wythnos sy'n dechrau ar 21 Mehefin, pan wneir penderfyniad, byddaf yn anfon llythyr at arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdod lleol dan sylw, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru a'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ddydd Mercher yn amlinellu fy mhenderfyniad. Byddaf wedyn yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i'r Senedd y diwrnod canlynol i gyfleu'r penderfyniadau hynny.

Ni fydd y broses hon yn effeithio ar bob awdurdod yn yr un modd - mae rhai ardaloedd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y boblogaeth tra bod eraill wedi gweld gostyngiadau yn y boblogaeth. Byddaf yn ceisio rhoi blaenoriaeth i benderfyniadau yn yr awdurdodau hynny lle mae'r newid mwyaf wedi digwydd.

Mae hwn yn fater cymhleth ac nid yw'n bosibl rhoi rhagor o fanylion am ddyddiadau cwblhau bras ar gyfer pob ardal unigol.

Yn dilyn pob penderfyniad bydd cyfnod pellach o amser i ymgymryd â'r prosesau gweinyddol a chyfreithiol i wneud pob Gorchymyn cysylltiedig. Ni ddylid dehongli hyn fel cyfle i ailedrych ar benderfyniadau. Dyma ddiwedd y broses statudol.

Fodd bynnag, gan gydnabod nad yw'r cymunedau a gynrychiolwn yn aros yn sefydlog, byddaf, ar ôl i'r set hon o 22 o adolygiadau ddod i ben, yn dechrau trafodaethau gydag awdurdodau lleol, y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a rhanddeiliaid eraill am flaenraglen waith y Comisiwn.

Mae amrywiaeth o ffactorau wedi cyfrannu at y sefyllfa bresennol lle mae cyfnod rhy hir o lawer wedi bod ers i’r ffiniau gael eu hadolygu, ac nid wyf am i 25 mlynedd arall fynd heibio cyn i newidiadau gael eu gwneud eto. Felly, byddaf yn rhoi cyfres reolaidd o adolygiadau ar ar waith, fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ardal awdurdod lleol gael ei hadolygu o leiaf unwaith bob 10 mlynedd i sicrhau bod y gynrychiolaeth ddemocrataidd yn deg.

Byddaf yn rhoi gwybod i'r aelodau am hynt y gwaith dros yr wythnosau nesaf.