Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, mewn Cyfarfod Llawn cyhoeddodd John Griffiths, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon ar y pryd, adolygiad annibynnol o dirweddau dynodedig Cymru. Roedd cyfraniadau’r Aelodau yn dangos y byddai cefnogaeth fawr i adolygiad a chydnabyddiaeth eang o bwysigrwydd tirweddau dynodedig Cymru. Rwyf wedi datblygu’r dull o fynd ati i gynnal yr adolygiad gan ystyried y pwyntiau a wnaed ac rwy’n falch o gael cyhoeddi y bydd yr adolygiad yn cychwyn gyda hyn. Rwy’n cyhoeddi hyn nawr er mwyn caniatáu i’r panel adolygu gychwyn ar ei waith o gasglu barn a thystiolaeth gan randdeiliaid, y cymunedau sydd o fewn y tirweddau hyn a’r cyhoedd yn gyffredinol

Mae’n tirweddau dynodedig yn un o’r prif elfennau sy’n gwneud Cymru mor unigryw. Mae’r tirluniau, a’r cymunedau sy’n byw oddi mewn iddynt, yn rhan bwysig o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n arbennig yn amgylcheddol ac yn nhermau diwylliannol a chymdeithasol. Hefyd, maent yn cyflawni swyddogaeth economaidd allweddol o ran y rhinweddau sy’n eu gwneud yn arbennig i filiynau o ymwelwyr bob blwyddyn.

Nodwyd dibenion ein Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol mewn deddfwriaeth sydd bron yn ddeg a thrigain oed bellach. Yn y degawdau ers hynny, mae datblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd wedi golygu bod natur y materion sy’n eu hwynebu wedi datblygu hefyd. Mae’n hynod amserol, felly, bod  y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gwneud argymhellion pwysig i Barciau Cenedlaethol gymryd cam yn ôl, gwerthuso a deall yn well a yw’r dynodiadau, y dibenion, y trefniadau rheoli a’r modd y maent yn llywodraethu tirweddau dynodedig yn bodloni’r heriau a wynebir heddiw ac yn y dyfodol.

Wrth wneud hyn, mae cyfle hefyd i ystyried y ffordd y mae’r cyd-destun polisi wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran ein dealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy a rheoli adnoddau naturiol. Hoffwn petai’n tirweddau dynodedig ni yng Nghymru yn datblygu’n enghreifftiau rhyngwladol o gynaliadwyedd, yn dirluniau byw ac ynddynt gymunedau gwledig cryf a bywiog, cyfleoedd hamdden awyr agored eang, ecosystemau ffyniannus a bioamrywiaeth gyfoethog. Mae’r potensial yno i fod yn ardaloedd sy’n profi ac yn deall atebion newydd arloesol i heriau cynaliadwyedd mewn ardaloedd gwledig bregus

Cynhelir yr adolygiad gan banel adolygu annibynnol o dan gadeiryddiaeth yr Athro  Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd a  John Lloyd Jones a Dr Ruth Williams yn aelodau. Mae gan y panel hwn y profiad a’r sgiliau angenrheidiol i gynnal adolygiad trylwyr sy’n casglu ac yn pwyso a mesur y dystiolaeth a’r safbwyntiau a gesglir dros y misoedd nesaf.

Mae dau gam i’r gwaith hwn. Bydd Cam Un yn edrych ar y dynodiadau eu hunain, gan ystyried pwrpas y tirweddau hyn a manteision rhoi tirweddau dynodedig Cymru i gyd o dan yr un dynodiad.

Yn dilyn cam un, bydd cam dau yn ystyried trefniadau llywodraethu’r tirweddau dynodedig. Bydd yn adolygu’r trefniadau rheoli a llywodraethu ac yn ystyried argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o hyn. Bydd yn ystyried Bil Cynllunio (Cymru) o ran y trefniadau cynllunio mewn Parciau Cenedlaethol yn y dyfodol. Gellir gweld cylch gwaith manwl ac amserlen y Panel ar wefan Llywodraeth Cymru.

Ym mhob cam, bydd y panel yn galw am dystiolaeth ac yn gofyn barn rhanddeiliaid, cymunedau o fewn y tirweddau dynodedig a’r cyhoedd yn gyffredinol. Rwyf eisiau sicrhau bod ein tirweddau dynodedig yn y sefyllfa orau i fodloni’r heriau cyfredol a heriau’r dyfodol ac adeiladu ar eu statws sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r trefniadau cyfredol yn addas i fodloni’r amcanion hyn ac, os nad ydynt, pa newidiadau sydd eu hangen er mwyn eu bodloni.

Mae gan bawb sy’n teimlo’n gryf am ein hasedau cenedlaethol gwych gyfle pwysig i drafod â’r panel adolygu a chynnig barn a thystiolaeth i helpu i lywio dyfodol ein tirweddau mwyaf arbennig.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi’n ystod y toriad i roi gwybod i’r Aelodau am yr hyn sy’n digwydd. Rwy’n fodlon gwneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull os yw’r aelodau’n dymuno i mi wneud hynny.