Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi 

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 i ddiogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru. Hwn oedd y Comisiynydd cyntaf o’r fath yn y Deyrnas Unedig.

Yn fwy diweddar, mae’r Comisiynydd Plant wedi datgan yn gyhoeddus bod angen cynnal adolygiad annibynnol i’w rôl  a swyddogaethau. Rwyf innau’n teimlo bod dadl gref dros gynnal adolygiad. O’r herwydd, rwyf wedi cytuno i gomisiynu adolygiad annibynnol llawn o rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru.

Mae manylion ac amserlen yr adolygiad wrthi’n cael eu cadarnhau  ,ond dyma’r prif egwyddorion:

  • Pwrpas yr adolygiad yw sicrhau bod rôl y Comisiynydd Plant Cymru mor glir ac effeithiol ag y bo modd er budd plant a phobl ifanc.
  • Bydd yr adolygiad yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ac yn cynnig argymhellion i Weinidogion Cymru eu hystyried.
  • Ni fydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar drefniadau gweithredu’r swyddfa o ddydd i ddydd ond mae’n bosibl y bydd yn rhoi peth ystyriaeth i’r agweddau hynny.
  • Bydd yr adolygiad hefyd yn cysidro y cyd-destun rhygwladol mewn perthynas âg Ombwdsmyn a Chomisiynwyr plant a phobl ifanc eraill.

Hoffwn bwysleisio nad yw’r adolygiad yn ymwneud a’r Comisiynydd presennol. Rwy’n  cytuno gyda Keith Towler mai dyma yw’r amser i fynd i’r afael gyda’r gwaith yma.    

Gyda’r nôd o adeiladu ar waith gwych y Comisiynydd Plant presennol, mi fydd yr adolygiad yn cryfhau statws arloesol Cymru mewn perthynas â’r ffordd mae’r wlad yn cael ei weld yn arwain y ffordd wrth weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC). Ynghyd â gweithredu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae rôl a swyddogaethau’r Comisiynydd Plant yn chwarae rhan hollbwysig o weithredu a chynnal hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.  

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynydd Plant ac eraill, gan gynnwys Aelodau’r Cynulliad, i baratoi manylion yr adolygiad a fydd yn arwain at argymhellion annibynnol yn nodi sut y bydd y Comisiynydd Plant yn gallu diogelu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.

Rhoddaf ragor o fanylion i’r Aelodau maes o law.