Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu’r mesurau diogelu rhag y coronafeirws bob tair wythnos. Ers yr adolygiad ffurfiol diwethaf o’r Rheoliadau Coronafeirws, mae’r Cabinet wedi dechrau adolygu’n wythnosol mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid yn gyflym o ran iechyd y cyhoedd ac ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron.
Rydym heddiw wedi cynnal yr adolygiad diweddaraf.
Rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae ton fawr o heintiau o’n blaenau yn sgil yr amrywiolyn Omicron hynod heintus. Gallai’r math hwn o’r coronafeirws heintio niferoedd mawr o bobl yng Nghymru, gan amharu ar fywyd pobl a busnesau. Gallai achosi cynnydd yn nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty yn yr wythnosau nesaf.
Bydd Cymru felly yn symud i lefel rhybudd dau am 6am Ddydd San Steffan. Mae’r mesurau newydd hyn ar gyfer digwyddiadau a safleoedd a reoleiddir wedi’u llunio i ymateb i’r amrywiolyn newydd hwn. Byddant yn cynnwys mesurau diogelu newydd ar gyfer busnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarnau, sinemâu a theatrau pan fyddant yn ailagor wedi cyfnod yr ŵyl, ac ar gyfer cynulliadau cyhoeddus, gan gynnwys digwyddiadau.
Bydd gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen a bydd rhaid i glybiau nos gau eu drysau.
O 6am Ddydd San Steffan ymlaen, bydd mesurau lefel rhybudd dau yn cael eu cyflwyno, a fydd yn golygu’r canlynol:
- Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle, pan fo hynny’n rhesymol.
- Bydd y rheol chwech o bobl mewn grym pan fydd pobl yn ymgynnull mewn lleoliadau a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
- Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
- Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
- Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.
Bydd yna eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr yn yr awyr agored, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant a phobl ifanc o dan 18 oed.
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom gadarnhau mesurau lefel rhybudd dau ar gyfer busnesau manwerthu a gweithleoedd. Bydd y rhain yn dod i rym am 6am Ddydd San Steffan.
Bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi er mwyn helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddant yn cwrdd â phobl eraill.
I aros yn ddiogel, rydym yn cynghori pawb i ddilyn y mesurau hyn:
- Cyfyngu ar nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref. Os bydd pobl yn ymweld, dylech sicrhau eu bod yn gwneud prawf llif unffordd cyn iddynt ddod draw.
- Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well nag o dan do. Os byddwch yn cwrdd o dan do, gadewch ddigon o awyr iach i mewn i ystafelloedd.
- Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau.
- Cofio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo.
Bydd trosedd ar wahân am gynulliadau mawr o dros 30 o bobl dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored.
Bydd cymorth ariannol o £120m ar gael i glybiau nos, digwyddiadau, busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth y bydd y newid hwn i lefel rhybudd dau yn effeithio arnynt. Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud cyhoeddiad arall am y cyllid hwn yfory.
Mae Cronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3m wedi’i chyhoeddi i gefnogi lleoliadau, a bydd Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf gwerth £5.25m ar gael i gefnogi sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy fisoedd y gaeaf.
Rhoddais ddatganiad llafar i’r Senedd a gafodd ei galw’n ôl brynhawn heddiw.