Y Prif Weinidog Mark Drakeford AS
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol bod adolygiad o gyfyngiadau'r coronafeirws yn cael ei gynnal bob tair wythnos. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf ar 16 Medi.
Mae Rheoliadau diwygiedig drafft wedi'u gosod heddiw a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau mawr a sefydliadau risg uchel, megis clybiau nos, o 11 Hydref ymlaen. Caiff hyn ei drafod gan aelodau'r Senedd ar 5 Hydref
Defnyddiwyd y Pàs COVID yng Nghymru ar gyfer rhai digwyddiadau dros yr haf, ac mae rhai safleoedd eisoes yn mynnu bod y pàs yn cael ei ddangos fel amod i gael mynediad. Mae'r pàs yn caniatáu i bobl brofi eu bod naill ai wedi cael eu brechu'n llawn neu i ddarparu tystiolaeth o brawf llif unffordd negyddol.
Nid ar chwarae bach yr ydym yn cyflwyno mesurau o'r fath: rydym am gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau drwy fisoedd yr hydref a’r gaeaf a allai fod yn gyfnod anodd.
Wrth inni symud i gyfnod y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru, ac rwy'n annog yr aelodau i gefnogi hyn ar 5 Hydref.