Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar ymgynnull, symud gan bobl ac ar y ffordd y caiff busnesau eu gweithredu. Eu bwriad yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

Roedd yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r cyfyngiadau erbyn 19 Tachwedd.  Rhaid eu hadolygu bob pythefnos wedyn, hyd at 17 Rhagfyr. Ar ôl hynny, rhaid eu hadolygu bob tair wythnos, yn ôl y drefn cyn y cyfnod atal byr.

Rwyf bob amser wedi bod yn glir na fyddwn yn gweld effaith lawn mesurau’r cyfnod atal byr tan ychydig wythnosau ar ôl iddynt ddod i ben ar 9 Tachwedd. Er bod arwyddion calonogol bod yr ymyrraeth fer, sydyn wedi torri cadwyni trosglwyddo, gan arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion positif, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i fod yn ddifrifol iawn. Yr wythnos diwethaf, yn anffodus gwnaethom basio’r garreg filltir drist o 3,000 o farwolaethau yng Nghymru sy’n ymwneud â COVID-19.

Rwyf, felly, yn credu ei bod yn rhy gynnar i lacio unrhyw un o’r cyfyngiadau hyn. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull gofalus a graddol o weithredu yr ydym bob amser wedi’i gymryd.

Nod y pecyn oedd ceisio sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng diogelu iechyd y bobl a chynnig cymaint o ryddid â phosibl.  Ar y cyfan, mae’r rheoliadau wedi’u cynllunio i fod yn glir, yn sefydlog ac yn hawdd eu deall. Am y rheswm hwn, rwy’n awyddus i osgoi gwneud newidiadau sylweddol. Yn y bôn, mae ein dull gweithredu yn dibynnu ar bob un ohonom i gymryd rhagofalon a chyfyngu ein cysylltiadau ag eraill. 

Rwy’n ymwybodol iawn o’r heriau a’r trallod y mae llawer o bobl yng Nghymru yn parhau i’w hwynebu o ganlyniad i’r cyfyngiadau, yn enwedig o ran cwrdd â theulu ac anwyliaid.

Wrth inni nesáu at gyfnod gwyliau mis Rhagfyr, bydd teuluoedd ac anwyliaid, yn naturiol, yn dymuno treulio amser gyda’i gilydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â gweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig ar ddull ar y cyd o gynllunio ar gyfer cyfnod gwyliau’r gaeaf, gan ystyried beth allai fod yn bosibl ar draws y pedair gwlad yn ystod y cyfnod pwysig hwn o’r flwyddyn.

Rwy’n ddiolchgar o hyd i’r bobl am eu hymdrechion parhaus i Ddiogelu Cymru.