Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar symud, cynulliadau, a’r ffordd y caiff busnesau eu gweithredu, gan gynnwys cau busnesau. Maent yn eu gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r perygl i bobl ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Maent wedi eu cynllunio i ddiogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau, ac ystyried pa mor gymesur ydynt bob 21 o ddiwrnodau.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae plant a phobl ifanc ym mhob ardal o Gymru wedi dychwelyd i’r ysgol am y tro cyntaf ers i’r pandemig ddechrau. Yn ôl yr wybodaeth wyddonol glir a dderbyniwyd gennyf, mae’r ffaith eu bod wedi gallu dychwelyd, ac mae hyn newyddion i’w groesawu, yn golygu nad yw’n bosibl llacio’r cyfyngiadau ymhellach, i unrhyw raddau sylweddol, ar hyn o bryd. 

Ynghyd â hyn, yn ôl yr wybodaeth wyddonol a chyngor ar iechyd y cyhoedd, rydym yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ar draws y DU, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr achosion yng Nghymru.

Mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd fis diwethaf yn nodi sut y byddwn yn mynd ati i fonitro achosion a rheoli brigiadau lleol o’r coronafeirws, gan wneud hynny yn seiliedig ar yr egwyddorion pwyll, cymesuredd a sybsidaredd.

Ein prif flaenoriaeth yw atal lledaeniad y coronafeirws, ond mae’n rhaid i unrhyw ymyriadau a wnawn fod yn gymesur, gan ddefnyddio deallusrwydd lleol ac arbenigedd.

Yn dilyn y cynnydd sylweddol a chyflym mewn achosion yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gwnaethom weithio gyda’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i gyflwyno cyfyngiadau lleol ar 8 Medi.

Rydym yn monitro’r cyfraddau yn agos mewn sawl ardal arall yng Nghymru a thrwy weithio gyda phartneriaid, byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau priodol pellach pe bai angen, yn unol â Chynllun Rheoli’r Coronafeirws.

Ar y cyfan, mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion ar draws Cymru, a hynny mewn telerau absoliwt ac fel cyfran o nifer y bobl sy’n cael eu profi.  Fodd bynnag, mae’r darlun ehangach yn fwy cymhleth oherwydd mae rhai rhannau o’r wlad wedi dod yn fannau problemus o ran y feirws, tra bo eraill ond wedi gweld un neu ddau achos ychwanegol.

Yn y mannau hynny lle y mae’r cynnydd mewn achosion i’w weld, mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n glir bod hyn yn deillio o ryngweithio cymdeithasol o fewn aelwydydd a rhyngddynt, a grwpiau cymdeithasol ddim yn cydymffurfio â’r gofynion cadw pellter a’r rheoliadau a’r canllawiau presennol.

O ystyried yr holl faterion hyn gyda’i gilydd felly, mae’r Gweinidogion wedi penderfynu cymryd sawl cam ar unwaith i helpu i reoli lledaeniad y feirws:

O ddydd Llun 14 Medi ymlaen, bydd yn ofynnol i bob preswylydd yng Nghymru dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, megis siopau. Bydd esemptiadau ac eithriadau a fydd yn cael eu nodi mewn canllawiau.

Am y tro ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb mewn tafarndai a bwytai. Fodd bynnag, byddwn yn cynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth i benderfynu a ddylid cynnwys y sector lletygarwch yn hynny o beth.

O ddydd Llun 14 Medi ymlaen, byddwn yn cyfyngu ar y niferoedd sy’n gallu cwrdd dan do ar yr un pryd i uchafswm o chwe pherson. Rhaid i’r bobl hynny fod yn perthyn i’r un aelwyd gyfyngol - neu swigen - y gellir ei chreu o bedwar aelwyd yn ymuno â’i gilydd. Ni fydd plant dan 11 oed yn cael eu cynnwys yn y rheol hon.

Bydd y terfyn hwn yn gymwys i leoliadau dan do, gan gynnwys tafarndai a bwytai.  Dylai pobl fynd i dafarndai neu fwytai gydag aelodau eu haelwyd eu hunain neu eu haelwyd estynedig.

Bydd eithriadau ac esemptiadau, gan gynnwys i aelwydydd sengl sydd â mwy na chwe aelod. Nid oes newidiadau hyd yn hyn i’r rheolau ar gyfer cwrdd yn yr awyr agored ond mae'n bwysig bod pawb yn cydymffurfio â’r gofynion cadw pellter bob amser.

Ni fydd hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili tra bo’r cyfyngiadau lleol yn eu lle.

Byddwn yn darparu pwerau newydd i awdurdodau lleol allu cau mangreoedd ar sail iechyd y cyhoedd o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. Bydd hyn yn helpu i ymyrryd yn gyflym pan fo brigiad o achosion yn dod i’r amlwg ac yn galluogi awdurdodau lleol i gau mynediad i dir neu fangre unigol, a rhoi terfyn ar gynulliadau neu ddigwyddiadau lleol.

Hoffwn atgoffa’r rheini sy’n gyfrifol am fangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd y gallant gael eu cau eisoes os na chymerir mesurau rhesymol i leihau’r perygl i bobl ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Disgwyliaf i awdurdodau lleol ddefnyddio’r pwerau sydd eisoes ganddynt a’r pwerau newydd hyn yn llawn lle y bo angen.

Mae risg trosglwyddo’r coronafeirws yn uwch dan do a dyna pam mae’n bwysig bod pawb yn dilyn y rheolau a’r canllawiau i ddiogelu eu hunain a phobl sy’n annwyl iddynt i Ddiogelu Cymru.

Fel rhan o’r broses ffurfiol 21 o ddiwrnodau i adolygu’r cyfyngiadau presennol, byddwn yn gwneud newid bach iawn i’r cyfyngiadau - bydd canolfannau sglefrio parhaol yn gallu ailagor o 3 Hydref ymlaen, yn amodol ar y sefyllfa bryd hynny.

Mae datblygiadau dros yr wythnos ddiwethaf wedi darparu rhagor o dystiolaeth nad yw’r feirws wedi diflannu ac rwyf wedi cymryd camau cynnar i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae gan bob un yn awr ran i’w chwarae os ydym am osgoi cyfyngiadau llymach pellach.

Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn parhau i wneud ein rhan ac yn Diogelu Cymru.