Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar symud, cynulliadau, a’r ffordd y caiff busnesau eu gweithredu, gan gynnwys cau busnesau. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd mesurau rhesymol i leihau’r perygl y daw pobl i gysylltiad â’r coronafeirws. Maent wedi eu cynllunio i ddiogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).                                                             

Rydym yn dal i weld cynnydd mawr a chyflym yn nifer yr achosion ar draws y rhan fwyaf o Gymru.

Mae cyfyngiadau lleol wedi’u gosod yn ardaloedd 15 o awdurdodau lleol ac yn Llanelli.  Mae’r rheoliadau’n gofyn inni adolygu’r cyfyngiadau hyn bob wythnos.  Adolygiad yr wythnos hon oedd y trydydd adolygiad ac rydym o’r farn na ddylid newid y cyfyngiadau.

Mae’n galondid gweld serch hynny bod yr achosion yn parhau i sefydlogi yn nifer o’r Ardaloedd Diogelu Iechyd Lleol, yn arbennig yn ardal Gwent. I ymdrechion pobl leol y mae’r diolch am hyn ac mae’n golygu y gallwn nawr weithio gydag awdurdodau lleol i gytuno ar y ffordd orau i godi’r cyfyngiadau yn ddiogel.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cadw at y Rheoliadau, rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn gallu ymateb yn effeithiol pan fydd lleiafrif yn gwrthod gwneud ac yn peryglu’u hiechyd eu hunain ac iechyd pobl eraill.

Yr wythnos hon hefyd, byddwn yn cryfhau pwerau awdurdodau lleol i gyfyngu ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i atal pobl rhag ymgynnull ac yfed mewn ardaloedd penodol lle mae risg y bydd coronafeirws yn cael ei drosglwyddo.

Dros y bythefnos nesaf, byddwn yn crisialu’r sefyllfa ynghylch hysbysiadau cosb penodol ac ynghylch a oes angen mynd i’r afael â materion penodol fel partïon mewn tai a pheidio â hunanynysu.