Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i ddweud wrthych fy mod wedi gofyn i RSPCA Cymru gynnal adolygiad ynghylch perchenogaeth gyfrifol ar gŵn yng Nghymru ac i roi eu canfyddiadau a’u hargymhellion imi ar ôl gwyliau’r haf.

Mae’r newidiadau deddfwriaethol a ddaeth i rym yn y Deyrnas Unedig yn sgil Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (y Ddeddf) a’r diwygiadau dilynol i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 wedi deillio o’r gwaith datblygu polisi a wnaed yng Nghymru i gefnogi’r Bil drafft ar Reoli Cŵn (mae’r Bil hwn bellach wedi’i dynnu’n ôl). Rwy’n falch y bu’r gwaith hwn yn ddefnyddiol i helpu i lunio’r ddeddfwriaeth.  O ganlyniad i’r ddeddfwriaeth honno, mae hi bellach yn drosedd bod yn berchen ar gi neu fod yn gyfrifol am gi sy’n beryglus ac allan o reolaeth unrhyw le, gan gynnwys mewn unrhyw eiddo preifat ac mae’r gyfraith wedi’i hymestyn i gynnwys ymosodiadau ar gŵn cymorth. Mae cyhoeddi Canllaw ar wahân i Ymarferwyr ar sut i fod yn Berchennog Cyfrifol ar Gi i gefnogi’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn ddatblygiad positif hefyd. 

Wedi dweud hyn, rwy’n parhau i glywed pryderon ynghylch yr addysg a’r ymwybyddiaeth sydd ar gael ar gyfer bod yn berchennog cyfrifol ar gi ac rwy’n benderfynol o weld beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r agenda hon yng Nghymru. 


Felly, yn dilyn y newidiadau deddfwriaethol uchod ynghylch cŵn a wnaed yn y DU, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio’n agos â’r RSPCA i gytuno ar Gylch Gwaith i’r adolygiad.   Bydd Adolygiad yr RSPCA ar fod yn Berchennog Cyfrifol ar Gi yn cynnwys cyfraniad mudiadau eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn gan gynnwys cyrff o’r trydydd sector, ysgolion, milfeddygon ac awdurdodau lleol.  Bydd y Dogs Trust yn gweithio’n agos iawn gyda ni ar y mater hwn hefyd. 


Disgwyliaf dderbyn argymhellion ynghylch yr hyn y gellid ei wneud i godi ymwybyddiaeth ynghylch bod yn berchennog cyfrifol.  Bydd yr argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys yr adolygiad o‘r Adroddiad ‘Rapid Review of Deaths of Children from Dog Bites and Strikes’ gan Iechyd Cyhoeddus Cymru llynedd.


Fel yr esbonnir yn Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru a gafodd ei lansio llynedd, mae’r ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas.


Rwy’n disgwyl ymlaen yn arbennig at ddarllen canfyddiadau’r adolygiad ynghylch sut i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc ynghylch sut i fod yn berchenogion cyfrifol, gan fod ganddyn nhw ran tymor hir i’w chwarae i godi safonau lles anifeiliaid. 


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.