Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae'n dda gennyf gyhoeddi fy mod wedi cyhoeddi adolygiad heddiw ynghylch a ddylai fod yn ofynnol i athrawon ac eraill sy'n cefnogi dysgu yn y sector annibynnol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Prif ffocws yr adolygiad oedd nodi sylwadau rhanddeiliaid ar y syniad o gofrestru, gan gynnwys unrhyw gryfderau a gwendidau.
Cafodd Deddf Addysg (Cymru) 2014 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2014. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno system gofrestru ehangach sy'n gwneud darpariaethau i athrawon a gweithwyr cymorth dysgu mewn Addysg Bellach ac ysgolion gofrestru â chorff diwygiedig o’r enw Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor).
Wrth i'r Ddeddf fynd drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru, cyflwynwyd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn galw am gofrestru ymarferwyr mewn ysgolion annibynnol gyda'r Cyngor.
Fodd bynnag, nid oedd cofrestru staff mewn ysgolion annibynnol yn rhan o'r bwriad polisi gwreiddiol. Dywedais yn glir y byddai angen gwell dealltwriaeth o oblygiadau penderfyniad o'r fath cyn y byddai modd i mi wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid cynnwys y sector annibynnol yn y gofyniad i gofrestru.
Ymrwymais i gynnal adolygiad ymhen dwy flynedd ar ôl i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol ar effaith y gofyniad i gofrestru athrawon ac eraill sy’n cefnogi dysgu mewn ysgolion annibynnol.
Mae Deddf Addysg 2002 yn cynnwys gofyniad statudol i ysgolion annibynnol penodol gofrestru â Gweinidogion Cymru a chael eu harolygu gan Estyn. Yr ysgolion annibynnol sy'n gorfod cofrestru yw'r rheini sy'n darparu addysg lawn-amser i 5 neu fwy o ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol neu sy'n darparu addysg ar gyfer o leiaf 1 disgybl o’r oedran hwnnw sydd â datganiad AAA. Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i'r staff addysgu a'r rheini sy’n cefnogi dysgu yn yr ysgolion hynny gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Ystyrir bod ysgolion annibynnol yn fusnesau preifat neu'n fentrau elusennol ac nid oes yn rhaid i athrawon sy'n gweithio mewn ysgolion o'r fath feddu ar Statws Athro Cymwysedig.
Yn dilyn Etholiadau'r Cynulliad, mater i'r Llywodraeth nesaf fydd ystyried y camau nesaf a'r ffordd ymlaen.