Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Ym mis Mawrth 2012 fe roddais gyfarwyddyd newydd i’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru iddynt adolygu’r trefniadau etholiadol ar Ynys Môn.
Yn unol â’r cyfarwyddyd mae’r Comisiwn wedi cwblhau ei adolygiad ac wedi cyhoeddi ei gynigion terfynol.
Mae’r Comisiwn yn cynnig y dylid gostwng nifer y cynghorwyr o 40 i 30 a newid patrwm yr adrannau etholiadol, sy’n cael eu cynrychioli gan aelodau unigol ar hyn o bryd, i adrannau aml-aelod. O dan y trefniadau etholiadol cyfredol caiff 40 o aelodau eu hethol i gynrychioli 40 o adrannau etholiadol, ond o dan gynigion y Comisiwn byddai 30 o aelodau yn cynrychioli 11 o adrannau etholiadol.
Bydd y newidiadau a gynigir i’r trefniadau etholiadol yn golygu mwy o gysondeb etholiadol ar draws y rhanbarth. Y gymhareb o gynghorwyr i etholwyr a gynigir yw 1:1,649, sy’n gyson â’r cyfarwyddyd a oedd yn awgrymu cymhareb o gynghorwyr i etholwyr o 1:1,750.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru 28 o sylwadau ar yr adroddiad terfynol. Rwyf wedi ystyried y rhain yn ofalus cyn gwneud fy mhenderfyniad.
Ar 27 Mehefin 2012 fe benderfynodd mwyafrif ar Gyngor Ynys Môn dderbyn cynigion y Comisiwn fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.
Rwyf o’r farn y dylid derbyn cynigion y Comisiwn ac rwyf wedi cytuno y caiff Gorchymyn ei ddrafftio er mwyn rhoi’r newidiadau ar waith.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.