Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cwrddais â Chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, Prif Swyddog Gweithredol, Abi Tierney, a Nigel Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi. Trefnwyd y cyfarfod hwn ar frys yn dilyn ffocws y cyfryngau dros y penwythnos ynghylch honiadau o rywiaeth a wynebir gan dîm cenedlaethol y menywod yn eu trafodaethau cytundebol.

Mynegais fy siom bod rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir, yn enwedig yng nghyd-destun hanes diweddar. Nod y cyfarfod oedd ceisio eglurder ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi digwydd mewn perthynas â thrafodaethau contract ar gyfer chwaraewyr menywod a sut y gellir bwrw ymlaen â gwelliannau i'r broses bresennol yn fwy cadarnhaol yn y dyfodol.

Mae URC yn y broses o gwblhau adolygiad mewnol ac mae eisoes wedi derbyn rhai methiannau proses ac mae meysydd i'w gwella wedi'u nodi. Nid wyf eto wedi gweld drafft o'r adolygiad, ond mae crynodeb wedi'i gyhoeddi gan URC. Bydd URC yn ceisio cyfarfod â'r chwaraewyr yn fuan i ymddiheuro am yr agweddau hynny ar y broses a ddisgynnodd yn is na'r safonau y byddem i gyd yn eu disgwyl. 

Dros y dyddiau nesaf, byddaf yn ceisio deall safbwyntiau amrywiol bobl ar y broses hon a bodloni fy hun bod gwersi'n cael eu dysgu. Rwy'n cynnig cwrdd â'r chwaraewyr i ddeall yn uniongyrchol oddi wrthynt natur eu pryderon a gweld sut y gallwn helpu pob parti i symud ymlaen yn adeiladol. Byddaf hefyd yn ceisio cyfarfod gydag awduron yr adolygiad. 

Rwyf am weld rygbi Cymru, ar bob lefel, yn tyfu ac yn ffynnu. Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos gydag URC a'r chwaraewyr i sicrhau gêm gynaliadwy lwyddiannus yng Nghymru sy'n darparu gwell canlyniadau i bawb.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu dros yr wythnosau nesaf.