Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd darparais ddatganiad i'r Aelodau yn dilyn honiadau bod tîm rygbi cenedlaethol y menywod wedi wynebu rhywiaeth yn ystod eu trafodaethau cytundebol.

Bryd hynny, roeddwn wedi cwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru ar y cyfle cyntaf a mynegi fy siom bod rygbi Cymru yn y penawdau am y rhesymau anghywir eto. Roedd yr Undeb wedi comisiynu adolygiad i'r mater eu hunain a fyddai'n cael ei gyhoeddi maes o law. 

Rhoddais wybod i'r Aelodau fy mod yn bwriadu ceisio dealltwriaeth well o'r mater a'r gwahanol safbwyntiau ar yr hyn a ddigwyddodd, gan gynnwys cynnig cwrdd yn uniongyrchol â chwaraewyr tîm cenedlaethol y menywod. Cyn i'r adolygiad gael ei gyhoeddi, cwrddais â'i awduron sef Claire Donovan, cyn-chwaraewr sydd â 75 cap dros Gymru, ac Alison Thorne, cyn-aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru a chyn gadeirydd yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg. Mae'r ddau yn aelodau annibynnol o Fwrdd Undeb Rygbi Cymru. Cwrddais hefyd â chynrychiolwyr ar ran y chwaraewyr er mwyn deall eu barn a'u pryderon nhw yn well. 

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru yr adolygiad cyn y Nadolig, ac mae'r adroddiad ar gael ar eu gwefan. 

Mae'r adroddiad yn amlinellu bod yr Undeb wedi methu â chynnal proses wedi’i chynllunio a’i gweithredu’n dda ar gyfer adnewyddu'r contractau, ac wedi methu â chynnwys gwrando effeithiol ac ymgysylltu effeithiol â'r chwaraewyr a'u cynrychiolwyr yn y broses. Mae'n dod i'r casgliad mai "methiant o ran prosesau, llywodraethiant ac arweinyddiaeth" oedd hyn. O ran yr honiadau o rywiaeth, mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad "nad oes tystiolaeth ei bod wedi codi o wahaniaethu ar sail rhyw". Mae'r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad, gan gynnwys bod Undeb Rygbi Cymru yn ymgysylltu'n well ac yn gwella’r ffordd y rheolir tîm cenedlaethol y menywod a gêm y menywod yn fwy cyffredinol yng Nghymru. 

Ers cyhoeddi'r adroddiad, rwyf wedi cwrdd eto ag uwch-arweinwyr yr Undeb, y cadeirydd Richard Collyer-Keywood a'r prif weithredwr Abi Tierney. Rwyf hefyd wedi cwrdd â'r Fonesig Anne Rafferty, awdur yr adolygiad annibynnol blaenorol o ddiwylliant y sefydliad a gynhaliwyd y llynedd. Y Fonesig Anne yw cadeirydd y panel goruchwylio annibynnol sy'n parhau yn ei le i oruchwylio canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwnnw. Yn ogystal, rwyf hefyd wedi cwrdd eto â chynrychiolwyr ar ran y chwaraewyr.

Credaf fod yr adroddiad yn darparu sylfaen gadarn i Undeb Rygbi Cymru allu symud ymlaen yn gadarnhaol a datblygu perthynas well â phawb dan sylw, a gyda'r chwaraewyr yn benodol. Rwyf wedi pwysleisio wrth Undeb Rygbi Cymru bod angen gweithredu'r argymhellion hyn ar frys os ydynt am berswadio'r rhai yr effeithir arnynt eu bod o ddifrif ynghylch gwella gêm y menywod, ac y gellir dysgu gwersi o'r profiad hwn i ailadeiladu ffydd a hyder ynddynt. 

Bydd yr Aelodau'n nodi'r newidiadau sydd eisoes wedi digwydd gyda phenodiad diweddar Belinda Moore yn Bennaeth Rygbi Menywod Cymru, a Sean Lynn yn Brif Hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru. Rwy'n dymuno'n dda i'r ddau ohonynt yn eu rolau. 

Yn fy nghyfarfodydd gydag Undeb Rygbi Cymru, rwyf hefyd wedi mynegi fy marn nad oedd eu dull o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol o’r safon a ddisgwylir gan sefydliad o'u maint a'u statws nhw. Rwyf wedi cynnig cymorth Llywodraeth Cymru gyda'u cynlluniau presennol ac yn y dyfodol i wella eu proses ar gyfer ymgysylltu â'r chwaraewyr. 

Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i fonitro cynnydd a sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu. Rydym hefyd wedi cytuno y byddwn yn parhau i gael deialog reolaidd, a bydd fy nrws bob amser ar agor i'r chwaraewyr. 

Mae eleni, 2025, yn flwyddyn arwyddocaol a phwysig iawn i chwaraeon menywod yng Nghymru. Bydd tîm rygbi'r menywod yn troi eu sylw at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn, ac wedyn yn cychwyn ar daith o amgylch Awstralia cyn cystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd a gynhelir yn Lloegr dros yr haf. O ran pêl-droed, byddwn yn gweld ymddangosiad cyntaf hanesyddol Rhian Wilkinson a thîm menywod Cymru mewn pencampwriaeth fawr, pan fyddant yn cystadlu yn Euro 2025 yn y Swistir ym mis Gorffennaf. Yn ogystal, yma yng Nghymru cynhelir Pencampwriaeth Golff Agored Menywod AIG yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl dros yr haf. Rwy’n dymuno pob lwc i bawb sy'n rhan o’r timau hyn, ac rwy'n siŵr y bydd eu llwyddiant yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr benywaidd i ymdrechu i lwyddo yn y gamp y maent wedi’i dewis.