Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Hydref eleni, cyhoeddodd Estyn adolygiad thematig o hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig. Roedd yr adolygiad, a gafodd ei gomisiynu fel rhan o’r cylch gwaith blynyddol y mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei bennu ar gyfer Estyn, yn gwerthuso safonau ac ansawdd yr hyfforddiant y mae sefydliadau addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn ei gynnig ar hyn o bryd ym maes adeiladu.

Adroddiad hanfodol bwysig oedd hwn gan fod y sector adeiladu’n flaenoriaeth yn yr ymgyrch i hyrwyddo twf economaidd a datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Roedd adroddiad Estyn yn nodi bod y dirywiad yn yr economi wedi peri i’r sector hwnnw grebachu dros y pedair blynedd diwethaf; felly mae’n bwysicach fyth bod y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yn ymateb i anghenion y diwydiant, a bod dysgwyr yn cael y cyfle i ennill y sgiliau y mae eu hangen arnynt i gael swydd a chamu ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Rwy’n gwybod bod yna enghreifftiau nodedig o raglenni adeiladu arloesol ac rwy’n gweld bod lle i ganmol yn arbennig y cynlluniau Rhannu Prentisiaeth megis y cynllun peilot Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL) yn y Gorllewin a’r Prentis yn y De-ddwyrain. Mae’r cynlluniau hyn yn galluogi cyflogwyr llai eu maint i gynnig prentisiaethau, ac maent yn dod â manteision cymdeithasol ehangach gan fod y rheini sy’n cymryd rhan ynddynt yn aml yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud ag adfywio cymunedau. Serch hynny, mae adolygiad Estyn yn codi nifer o bryderon am ansawdd cyffredinol yr hyfforddiant adeiladu a gynigir ledled Cymru, ac mae’n gwneud argymhellion i sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion cyflogwyr a dysgwyr mewn modd mwy priodol.

Yn ei adroddiad, dywed Estyn:

Mae arweiniad gyrfaoedd yn aml yn aneglur ac wedi ei gamgyfeirio. Mewn gormod o achosion mae cynghorwyr gyrfaoedd yn cyfeirio dysgwyr, a bechgyn llai galluog yn bennaf, at hyfforddiant crefftau adeiladu fel dewis priodol o ran gyrfa. Mae hyn yn digwydd yn aml yn achos dysgwyr sy’n aflonyddu ar ddosbarthiadau, sydd â chofnodion presenoldeb gwael ac sydd wedi eu dadrithio’n gyffredinol â’r ysgol. Mewn gwirionedd, mae’n bosibl nad adeiladu fyddai’r hyfforddiant mwyaf priodol ar gyfer y dysgwyr hyn.

Mae’r ‘teulu’ o sefydliadau sy’n darparu addysg, gwybodaeth a chyngor ynghylch gyrfaoedd yng Nghymru yn un amrywiol, ac mae’n cynnwys ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant, y gwasanaeth ieuenctid, Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith a’r gwasanaethau gyrfaoedd addysg uwch. Yn adroddiad Estyn, mae’n glir bod y sylwadau hyn yn cyfeirio at y cyngor sy’n cael ei roi gan staff mewn ysgolion, ond rhaid cydnabod hefyd fod angen gwella gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn gyffredinol er mwyn i bobl ifanc allu gwneud dewisiadau cytbwys am eu haddysg a’u gyrfa.

Ymhlith fy swyddogaethau, rwy’n cadeirio Fforwm Strategol Datblygu Gyrfaoedd Cymru, sy’n tynnu ynghyd aelodau’r teulu gyrfaoedd yng Nghymru a chynrychiolwyr cyflogwyr. Mae’r Fforwm yn ymdrin â nifer o themâu allweddol, gan gynnwys helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau rheoli gyrfa; meithrin cysylltiadau rhwng y byd addysg a chyflogwyr (gan gynnwys profiad gwaith); ac edrych ar ffyrdd o fod yn atebol ar y cyd.

Mae fy swyddogion yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddatblygu prosiect strategol i feithrin cysylltiadau rhwng cyflogwyr ac ysgolion, ac i ddatblygu gallu ysgolion i ddarparu Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith mewn modd mwy effeithiol.  Bydd amlinelliad o’r dull gweithredu yn cael ei gyflwyno gerbron Fforwm Strategol ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd ym mis Chwefror 2014, a bydd hynny’n helpu i sicrhau bod y cyngor a roddir i bobl ifanc yn gweddu i’r llwybrau gyrfaoedd sydd ar gael ac i ddisgwyliadau cyflogwyr.

Bellach mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru ac sydd â chylch gwaith i ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd ac annibynnol. Er nad yw unrhyw sector yn cael ei hyrwyddo uwchlaw sectorau eraill, mae cyfleoedd gyrfa a phrofiad gwaith yn y sector adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig yn cael eu hyrwyddo os byddant yn addas ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n cael cyngor gan Gyrfa Cymru. Mae gyrfacymru.com yn rhoi gwybodaeth am realiti’r profiad o weithio yn y sector adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig, ac mae’r wybodaeth honno ar ffurf sy’n cynnwys taflenni a phytiau o fideo gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Hefyd byddwn yn annog Gyrfa Cymru i weithio gyda’r sector i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a chyfredol am y mathau o swyddi sydd ar gael yn y sector adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig, er mwyn i bobl ifanc allu gweld pa fanteision a allai ddeillio o ddilyn gyrfaoedd o’r fath.

Fel y nodwyd yn adroddiad Estyn, mae rhai ysgolion yn gweithio’n effeithiol gyda cholegau i gynnig rhaglenni blas ar waith i bobl ifanc 14-16 oed. Mae hyn yn werthfawr iawn er mwyn rhoi darlun llawn o’r dewisiadau sydd ar gael iddynt, a meithrin dealltwriaeth o realiti byd gwaith yn y diwydiant hwn.

Yn y cyfamser, cymerir camau i roi sylw i’r argymhellion gan Estyn sy’n benodol ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), mewn partneriaeth â CholegauCymru, wedi sefydlu Grŵp Strategol newydd ar gyfer yr Amgylchedd Adeiledig. Bydd y grŵp hwnnw’n cyfarfod am y tro cyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf. Prifathro coleg addysg bellach fydd yn ei gadeirio, a bydd y grŵp yn cymryd golwg gyffredinol ar y camau a gymerir i ymateb i adolygiad Estyn, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod hyfforddiant adeiladu yn ymateb i anghenion y farchnad lafur. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y grŵp hwn yn cael ei sefydlu, ac rwyf wedi gofyn iddo roi gwybodaeth am ei hynt imi bob chwe mis.