Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 7 Hydref 2019, cyhoeddais adolygiad annibynnol o'r trefniadau ar gyfer ymdrin â chamymddwyn honedig gan Uwch swyddogion Llywodraeth Leol yng Nghymru. Cafodd yr adolygiad ei arwain gan Peter Oldham CF, gyda chefnogaeth Owain Rhys James.

Nod yr adolygiad oedd ystyried a yw'r trefniadau presennol yng Nghymru yn parhau i fod yn addas at y diben, gan gynnwys, yn benodol:

  • cymharu’r trefniadau yng Nghymru â’r rheini mewn rhannau eraill o'r DU, ac ystyried a ddylid argymell newidiadau i Gymru
  • i ba raddau y mae'r trefniadau presennol yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng diogelu swyddogion rhag diswyddo diannod - am rannu newyddion gwleidyddol digroeso - a chynnal a gorffen prosesau yn gyflym
  • nodi gwelliannau / newidiadau - os o gwbl - i'r system bresennol sy'n cynnal diben deuol y trefniadau presennol

Pan gomisiynais yr adroddiad hwn, nodais yn glir y byddai angen cyfiawnhad cadarn dros unrhyw argymhellion am newid. Rwyf hefyd am sicrhau bod safbwyntiau llywodraeth leol yn cael eu hystyried yn llawn cyn gwneud penderfyniadau am gamau pellach.

Derbyniais yr adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2020 ac rydw i'n ddiolchgar i Peter Oldham CF ac Owain Rhys James am y gwaith y maent wedi'i wneud. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y materion allweddol yn y maes hwn ac yn gwneud nifer o argymhellion am welliannau i'r trefniadau.

Y casgliad cyffredinol yw bod y trefniadau presennol yn parhau'n addas at y diben, ar y cyfan. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn cynnig nifer o newidiadau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Mwy o eglurder am y diffiniad o 'gamau disgyblu' o fewn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006
  • Mwy o eglurder am p'un a all awdurdodau gymryd camau eraill, ar wahân i'r rheini y mae'r Person Annibynnol Dynodedig yn eu hargymell
  • Sefydlu dau banel neu restrau o Bersonau Annibynnol Dynodedig i'w cadw'n ganolog, ac y byddai Personau Annibynnol Dynodedig yn cael eu penodi'n awtomatig ar sail 'nesaf ar y rhestr', ac eithrio mewn achosion o wrthdaro. Byddai un rhestr yn cynnwys Personau Annibynnol Dynodedig â chymwysterau cyfreithiol, a'r llall yn cynnwys Personau Annibynnol Dynodedig heb gymwysterau cyfreithiol. Dylai partïon geisio cytuno pa restr i’w defnyddio, yn ôl pa mor gymhleth yw'r materion sy'n debygol o fod dan sylw
  • Mwy o eglurder am y prawf y dylai'r Pwyllgorau Ymchwilio lleol ei ddefnyddio wrth ystyried a yw'r materion sy'n gofyn am ymchwiliad pellach
  • Sicrhau nad yw ymchwiliadau'r Personau Annibynnol Dynodedig yn dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Ymchwilio
  • Cryfhau pwerau'r Person Annibynnol Dynodedig i gymryd y camau y mae'r person hwnnw yn eu hystyried yn briodol er mwyn caniatáu i'r ymchwiliad fynd rhagddo'n effeithiol, mewn achosion pan na lwyddir i lynu wrth amserlen.

Gellir gweld yr adroddiad llawn yma https://llyw.cymru/ymdrin-chamymddwyn-honedig-gan-uwch-swyddogion-llywodraeth-leol-adolygiad-oldham

Roeddwn wedi bwriadu cyhoeddi’r adroddiad hwn ym mis Mawrth 2020, ond fe wnaeth yr heriau digynsail yn sgil COVID-19 effeithio ar lawer o weithgarwch a oedd wedi’i gynllunio, ac nid oedd yn briodol cyhoeddi’r adroddiad o dan yr amgylchiadau.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda chynrychiolwyr o Gymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE), Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr yr Awdurdodau Lleol (ALACE), a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gytuno ar ffordd ymlaen a datblygu cynllun gweithredu. Rwy'n disgwyl y bydd y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a bydd y gwaith gweithredu, gan gynnwys yr ymgynghoriad, yn dechrau yn ddiweddarach eleni.