Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bwysig bod y trefniadau ar gyfer ymchwilio i gamymddwyn honedig gan uwch swyddogion llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu hadolygu o dro i dro er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben.

Mae’r trefniadau cyfredol wedi eu nodi yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006, fel y’i diwygiwyd. Caiff awdurdodau lleol yng Nghymru gynnwys darpariaeth bellach ar gyfer ymchwiliadau i honiadau o gamymddwyn yn eu rheolau sefydlog.

Mae’r helynt yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros y chwe blynedd ddiwethaf wedi arwain at alw o’r newydd am gynnal adolygiad o’r trefniadau hyn, gyda dinasyddion lleol a’r cyfryngau lleol a chenedlaethol yn codi nifer o bryderon am effaith y broses estynedig hirfaith honno.

Roedd y Prif Weinidog a minnau wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o’r trefniadau sydd ar waith ledled Cymru i ymdrin â chamymddwyn honedig gan uwch swyddogion, unwaith i’r Person Annibynnol Dynodedig gwblhau ei waith yng Nghaerffili a bod y Cyngor wedi ystyried ei adroddiad. Mae’r broses honno wedi ei chwblhau erbyn hyn, ac nawr mae’n bryd i gynnal yr adolygiad hwn.

Bydd yn bwysig ystyried y trefniadau sydd ar waith ledled y DU ac ystyried effaith unrhyw newidiadau a wnaed. Er enghraifft, yn 2015 newidiodd y trefniadau ar gyfer ymdrin â chamymddwyn honedig gan uwch swyddogion llywodraeth leol yn Lloegr. Dilëwyd y gofyniad gorfodol i benodi Person Annibynnol Dynodedig, a bellach caiff penderfyniadau ynghylch camymddwyn honedig eu gwneud gan y cyngor llawn, a rhaid i’r cyngor llawn ystyried unrhyw gyngor, safbwyntiau neu argymhellion gan banel annibynnol, casgliadau unrhyw ymchwiliad i’r diswyddo arfaethedig, ac unrhyw sylwadau gan y swyddog dan sylw.

Rwyf wedi gofyn i Peter Oldham, Gwnsleriaid y Frenhines, gyda chymorth Cwnsler Iau, i gynnal adolygiad cyflym o’r trefniadau hyn, gan gynnwys:

• cymharu’r trefniadau yng Nghymru â’r trefniadau yn rhannau eraill o’r DU, gan ystyried p’un a ddylid argymell gwneud newidiadau yng Nghymru;

• i ba raddau y mae’r trefniadau cyfredol yn taro cydbwysedd priodol rhwng diogelu swyddogion rhag diswyddo diannod am gyfleu newyddion gwleidyddol drwg a chyflymder cynnal a chwblhau’r prosesau hynny;

• nodi gwelliannau / dewisiadau amgen – os oes rhai – i’r system gyfredol sy’n cynnal dibenion deublyg y trefniadau cyfredol.

Rwy’n disgwyl y caiff yr adolygiad ei gwblhau ddechrau’r flwyddyn nesaf, a bod cyfiawnhad cadarn dros unrhyw argymhellion ar gyfer newidiadau.

Er ei fod yn briodol i’r adolygiad ystyried sefyllfaoedd yr ymdriniwyd â hwy drwy’r trefniadau cyfredol, rhaid egluro y bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar y trefniadau ehangach a sut y mae’r trefniadau hynny’n gweithredu. Ni fydd yr adolygiad yn cynnal ail ymchwiliad i unrhyw achos penodol yng Nghymru nac yn unman arall yn y DU.