Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn fy Natganiad yn y Cyfarfod Llawn ar Strategaeth Pysgodfeydd Cymru ar 27 Mawrth 2012, disgrifiais uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli’n pysgodfeydd, a’r bwriad i adolygu’r drefn ar gyfer rheoli pysgod cregyn yn nyfroedd rhynglanwol Cymru. Mae’r adolygiad wedi canolbwyntio hyd yma ar bysgodfeydd cocos, sydd werth miliynau o bunnau i economi Cymru. 
Maen tramgwydd unrhyw drefniant ar gyfer rheoli’r pysgodfeydd hyn ar hyd y blynyddoedd yw’r diffyg darpariaeth statudol i gyfyngu ar nifer y bobl sy’n cael pysgota o fewn pysgodfa benodol.  Gall hyn yn ei dro arwain at nifer fawr o gasglwyr, ac nid yw hynny wedi helpu cynaliadwyedd y pysgodfeydd nag ateb anghenion cymunedau’r fro. 
Mater drud yw gorfodi’r rheolau ar welyau cocos rhynglanwol a gall fod yn beryglus hefyd.  Trwy olrhain cocos yn well a chryfhau’r pwerau gorfodi yn erbyn cynhyrchwyr sy’n prynu cocos anghyfreithlon, dengys profiad y gellid torri’r cyfleoedd i’r casglwyr hynny werthu’u cocos.  Canlyniad hynny fydd diwydiant sy’n cydymffurfio’n well. 
Sylfaen ein polisi yw bod yn rhaid wrth bysgodfeydd sy’n gynaliadwy a bwriadaf gyflwyno polisïau pellach i wireddu’r amcan hwnnw.  Rydym yn grediniol, os ydym am sicrhau’r hyfywedd tymor hir fydd yn diogelu’r stoc bysgod a’r cymunedau a’r unigolion sy’n dibynnu ar bysgota am eu bywoliaeth, rhaid rheoli pysgodfeydd fel eu bod yn gynaliadwy, yn enwedig pysgodfeydd sy’n destun anghydfod ac anghytundeb fel  pysgodfeydd cocos y glannau.  Mae’n hanfodol bod pysgodfeydd cocos Cymru’n gwneud y gorau o’r holl fanteision cynaliadwy all ddod iddynt. Lawn cyn bwysiced â hynny, rhaid osgoi’r anawsterau i’r cymunedau a’r amgylcheddau lleol.  
Mae fy swyddogion bellach wedi edrych ar yr opsiynau ar sut i reoli pysgodfeydd cocos.  Mae’r opsiynau hynny’n cynnwys: cyfyngu ar bwy sy’n cael trwyddedau, olrhain y cynnyrch yn well a gwella’r trefniadau yn erbyn cynhyrchwyr sy’n hela cocos yn anghyfreithlon.  Rwyf wedi sicrhau bod fy swyddogion yn gofalu bod y cynigion yn ateb y gofyn, yn ystyried cymunedau ac amgylcheddau lleol, yn arwain at gynaliadwyedd ac yn hawdd eu deall a’u defnyddio. Rwyf wedi cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion a fydd yn dechrau heddiw ac yn para am 12 wythnos. Fy mwriad yw rhoi’r argymhellion ar waith mewn pryd ar gyfer tymhorau’r dyfodol.