Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penodi'r Athro Harvey Weingarten i gynnal Adolygiad o Systemau Monitro a Gwella Effeithiolrwydd Addysg Ôl-orfodol yng Nghymru. Gyda'i gefndir, ei brofiad a'i arbenigedd, ynghyd â'i annibyniaeth ar y sector addysg Cymru, roedd yr Athro Weingarten mewn sefyllfa unigryw i gynnal yr adolygiad hwn ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae'r Athro Weingarten bellach wedi llunio ei adroddiad, sy'n cydnabod natur dameidiog y system bresennol ar gyfer monitro perfformiad, ac yn cryfhau’r achos dros newid. Mae wedi cyflwyno adroddiad sy’n cydnabod ein hamcanion cenedlaethol cyffredin, a bennwyd ar sail arloesi rhyngwladol ac arfer gorau o ran gwella perfformiad systemau. Byddwn yn mynd ati nawr i roi ystyriaeth ofalus i'r 10 argymhelliad yn yr adroddiad, a hynny yng nghyd-destun ein gwaith parhaus i ddatblygu systemau ar gyfer monitro a chefnogi'r system addysg ôl-orfodol yng Nghymru.

Mae adolygiad yr Athro Weingarten yn gyfraniad gwerthfawr at ein gwaith mwy hirdymor i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, sy'n cynnwys yr ymgynghoriad technegol cyfredol ar greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i Gymru.  

Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://gov.wales/topics/educationandskills/highereducation/reviews/review-of-systems-for-monitoring-and-improving-the-effectiveness-of-post-compulsory-education-in-wales/?skip=1&lang=cy