Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae adolygiad o’r ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori a gynhaliwyd gan y byrddau iechyd yn ystod y cyfnod cyntaf o ad-drefnu gwasanaethau GIG Cymru yn cael ei gyhoeddi gan ei awdur Ann Lloyd CBE.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr adolygiad ym mis Mehefin 2014, gan wireddu ymrwymiad i gynnal ymarfer o’r fath wedi i’r tri ymgynghoriad gael eu cwblhau. Gofynnwyd i Mrs Lloyd, gyda chymorth grŵp cyfeirio bach â phrofiad o newid mawr yng ngwasanaethau’r GIG, asesu effeithiolrwydd y prosesau a’r canllawiau presennol ac ystyried pa welliannau a allai fod yn angenrheidiol. 

Hefyd ystyriodd ac asesodd yr adolygiad rôl cynghorau iechyd cymuned yn y broses. Gofynnwyd i Mrs Lloyd roi cyngor ynghylch y rôl y mae gofyn i’r cynghorau iechyd cymuned ei chyflawni a’u gallu i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn yn effeithiol.

Rwy’n croesawu adroddiad cynhwysfawr Mrs Lloyd a hoffwn nodi fy niolchiadau diffuant am y ffordd drylwyr y mae hi wedi cynnal yr adolygiad. Cafodd mwy na 70 o gynrychiolwyr o 30 o fudiadau eu cyfweld, gan gynnwys sefydliadau’r GIG, cynghorau iechyd cymuned, awdurdodau lleol ac aelodau grwpiau ymgyrchu cyhoeddus oedd yn rhan o’r ymarferion ymgynghori.

Mae’r adolygiad yn nodi nifer o gryfderau allweddol yn y tri ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’r pum bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a oedd yn rhan o Raglen De Cymru.

Roedd pawb yn dangos lefelau sylweddol o ‘ymdrech onest’ yn y broses newid gwasanaethau, ac wedi ymrwymo cryn amser ac ymdrech i sicrhau bod y prosesau ymgysylltu ac ymgynghori yn rhai helaeth, gwirioneddol a chydwybodol.

Tynnodd yr adolygiad sylw at ymgysylltu cynhwysfawr gyda chlinigwyr, oedd yn cael ei ystyried yn gam mawr ymlaen ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r canlyniadau terfynol. Roedd hefyd yn nodi bod defnydd da yn cael ei wneud o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb o ran sicrhau bod y prosesau’n parhau i fod yn ddeinamig, a bod strategaethau’n cael eu hadolygu a’u haddasu’n briodol.

Barnwyd fod y penderfyniad i ymgysylltu â sefydliadau dilysu allanol – fel y Consultation Institute ac Opinion Research Services (ORS) – yn ystod pob un o’r tri ymgynghoriad yn synhwyrol ac yn ddefnyddiol o ran cynnig mwy o sicrwydd ynghylch prosesau’r byrddau iechyd. Nododd yr adolygiad fod rhwydweithiau’r trydydd sector yn cael eu defnyddio’n dda o ran gweithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd.

Fodd bynnag, gwelwyd tystiolaeth nad yw byrddau iechyd ledled Cymru yn dehongli nac yn cymhwyso’n gyson y canllawiau presennol sy’n sail i’r broses o newid gwasanaethau. 

Roedd diddordeb y cyhoedd yn y broses o newid gwasanaethau yn amrywio ac i’w weld yn gyfyngedig i’r bobl hynny y mae’r newidiadau’n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Dangoswyd fod cyfle’n cael ei golli yn sgil absenoldeb cleifion arbenigol yn y broses a’r wybodaeth fanwl sydd gan y grwpiau allweddol hyn yn sgil eu defnydd helaeth o wasanaethau iechyd. 

Mae Mrs Lloyd yn gwneud nifer o argymhellion i ddiwygio’r trefniadau ymgysylltu ac ymgynghori presennol, gan gynnwys y canllawiau cenedlaethol ar newid mawr i wasanaethau iechyd yng Nghymru. Ei phrif argymhelliad yw y dylai ymgysylltu effeithiol a pharhaus gan fyrddau iechyd fod yn brif gyfrwng ar gyfer newid gwasanaethau yn y dyfodol; dylid defnyddio ymgynghori ffurfiol ar gyfer newid gwasanaethau ”hanfodol” yn unig lle mae hyn yn effeithio ar nifer fawr o bobl neu lle mae bwriad i symud ased lleol pwysig.

Gallaf weld rhinwedd yn hyn fel ffordd o alluogi a sbarduno newid angenrheidiol i wasanaethau yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ymchwilio i hyn ymhellach.

Mae Mrs Lloyd hefyd yn argymell cael gwared ar bŵer unigryw y cynghorau iechyd cymuned i atgyfeirio cynigion gan fwrdd iechyd i Weinidogion Cymru benderfynu arnynt os ydynt o’r farn nad yw’r rhain er buddiannau gorau cymunedau lleol. Mae hi’n dadlau nad oes gan gynghorau iechyd lleol, yn ôl eu cyfansoddiad presennol, yr adnoddau na’r arbenigedd i arfer y swyddogaeth hon yn effeithiol. Fan leiaf, ni ddylai’r pŵer atgyfeirio barhau gyda’r cynghorau iechyd cymuned yn unig a dylai fod yn ofynnol iddynt geisio a sicrhau cytundeb eu byrddau gwasanaethau lleol cyn atgyfeirio cynigion i newid gwasanaethau i Weinidogion Cymru.

Rwy’n deall y pwyntiau sy’n cael eu codi ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ymchwilio i’r rôl y byddai’r byrddau gwasanaethau lleol arfaethedig newydd yn ei chwarae yn y broses o newid gwasanaethau fel rhan o’r dyletswyddau cydweithredu y bydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gosod arnynt.

Rwyf hefyd wedi gofyn am gyngor manylach ynghylch argymhelliad Mrs Lloyd y dylid cyflwyno panel o arbenigwyr i’r broses i gynghori Gweinidogion Cymru mewn achosion lle caiff cynigion newid gwasanaethau eu hatgyfeirio yn dilyn ymgynghoriad.

Fodd bynnag, rwyf wedi penderfynu am y tro y dylai cynghorau iechyd cymuned gadw eu pŵer atgyfeirio, ac y dylid ei gryfhau drwy’r swyddogaethau newydd a gynigir ar gyfer y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned fel rhan o’r gwaith sy’n mynd rhagddo i roi argymhellion adolygiad Marcus Longley yn 2012 ar waith (gweler isod). Mae dyfarniadau diweddar yr Uchel Lys ynghylch cynlluniau newid gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn galonogol dros ben i mi, lle barnwyd fod pob agwedd a gweithdrefn a fabwysiadwyd gan y bwrdd iechyd a Gweinidogion Cymru yn deg ac yn gyfreithlon.

Bydd gan waith sy’n mynd rhagddo i roi ar waith argymhellion y Comisiwn Williams a’r adolygiad annibynnol bresennol o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gan Ruth Marks oblygiadau hefyd i rôl y cynghorau iechyd cymuned yn y dyfodol.

Fodd bynnag, dylai’r byrddau iechyd a’r cynghorau iechyd cymuned symud mor gyflym â phosibl i’r cyfeiriad y mae Mrs Lloyd yn ei gynnig yn ei hadroddiad. Yn arbennig, rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd wella’r ymgysylltu parhaus gyda’u cymunedau lleol.

O’u safbwynt hwy, dylai cynghorau iechyd cymuned ddechrau meithrin cysylltiadau agosach ar unwaith gyda’u byrddau gwasanaethau lleol perthnasol i drafod materion sydd o fuddiant ac o bwys i’r ddwy ochr. Mae gofyn bod cynghorau iechyd cymuned yn ystyried yr angen am ymgysylltu systematig a pharhaus gyda’r boblogaeth leol a grwpiau cymunedol yn eu hardaloedd er mwyn cynrychioli safbwynt y cyhoedd yn briodol. Yn y dyfodol, dylai hyn gynnwys eu byrddau gwasanaethau lleol, yn enwedig wrth ystyried cynigion mawr i newid gwasanaethau.

Byddaf yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau wrth i gynnydd gael ei wneud ar yr argymhellion.
 

Ymgynghoriad ar Newidiadau i Reoliadau a Gorchymyn Sefydlu y Cynghorau Iechyd Cymuned

Roedd cyfres o argymhellion yn adolygiad Longley yn 2012 ynghylch dyfodol cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru. Heddiw, bydd ymgynghoriad wyth wythnos yn cael ei lansio ar set o Reoliadau Diwygio drafft a Gorchymyn Sefydlu drafft ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned yn sgil argymhellion yr adolygiad.

Mae’r prif newidiadau a gynigir yn cynnwys:

  • pŵer i’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru osod safonau ar gyfer y ffordd y mae cynghorau iechyd cymuned unigol yn ymgymryd â’u swyddogaethau, gan gynnwys eiriolaeth, arolygu a monitro, newid gwasanaethau a’r broses ymgysylltu;
  • penodi cadeirydd annibynnol a dau gyfarwyddwr anweithredol i’r bwrdd drwy’r broses penodiadau cyhoeddus;
  • newid teitl Cyfarwyddwr a Phrif Swyddogion y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned i adlewyrchu strwythur rheoli mwy integredig;
  • mwy o hyblygrwydd yn y trefniadau rheoli/staffio ar gyfer cynghorau iechyd cymuned;
  • amryw welliannau i egluro materion rheoli perfformiad ac aelodaeth, gan gynnwys cydymffurfio â chod ymddygiad, indemniad ac uchafswm tymor ar gyfer aelodau cyfetholedig;
  • sefydlu un cyngor iechyd cymuned ar gyfer Powys.