Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Medi diwethaf, cyhoeddais adolygiad o waith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am ganlyniadau'r adolygiad a'r camau nesaf i'w cymryd.  

Bwriad yr adolygiad oedd cadarnhau blaenoriaethau'r rhanddeiliaid er mwyn manteisio i'r eithaf ar y £6bn o wariant caffael blynyddol ar draws Cymru ar adeg pan fo pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen ar wasanaethau cyhoeddus ac wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Ers cyhoeddi'r adolygiad, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio ei ymchwiliad ei hun i gaffael, ac rwyf wedi dilyn yr ymchwiliad hwnnw gyda diddordeb. Heddiw fe ysgrifennais at gadeirydd y pwyllgor i nodi sut y ceisiodd yr adolygiad hwn ymateb i ymrwymiadau a wnaed yn ystod yr ymchwiliad ac i ddatganiad am gaffael cyhoeddus yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Mai.

Bu amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys arweinwyr sector cyhoeddus, swyddogion caffael, busnesau a'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn cymryd rhan yn yr adolygiad.

Maent wedi dweud wrthym nad yw newid pwyslais y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru yn ddigon. Dangosodd yr adolygiad bod angen edrych mewn manylder ar ein ffordd o ddefnyddio cyllid cyhoeddus i helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a meithrin twf economaidd ar draws pob rhan o Gymru.

Drwy'r broses adolygu, mae rhanddeiliaid wedi cadarnhau nifer o flaenoriaethau ar gyfer caffael yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Canolbwyntio mwy ar sicrhau cytundebau caffael ar y cyd yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol a lleol. Yn ogystal â chaniatáu'r mynediad gorau posib at gyflenwyr Cymru, byddai dull gweithredu o'r fath hefyd yn ategu'r nodau yn y Cynllun Gweithredu Economaidd, y rhaglen ddatgarboneiddio a'n hymdrechion i wneud Cymru'n Genedl Gwaith Teg drwy arferion caffael a gwariant cyhoeddus;
  • Sicrhau nifer llai o gontractau cenedlaethol lle gall systemau ar draws Cymru gyfan, mewn meysydd fel llogi cerbydau, ddarparu'r gwerth gorau am arian i gyfran fawr o sector cyhoeddus Cymru;
  • Ystyried, gyda Llywodraeth y DU, sut y gallwn gryfhau ein perthynas â Gwasanaeth Masnachol y Goron er mwyn cymryd rhan yn llawn pan fo’i waith yn gyson ag anghenion a blaenoriaethau Cymru.

Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd uned cymorth cyflawni a datblygu polisi cenedlaethol yn helpu gyda’r gwaith hwn.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn datblygu strategaeth gaffael newydd, sy'n egluro model gweithredu'r dyfodol ac yn galluogi gwerth llawn y caffael i gael ei wireddu'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

Dywedodd rhanddeiliaid y dylai'r polisi cenedlaethol hwn geisio darparu cefnogaeth newydd mewn gofal cymdeithasol ac adeiladu, gan annog cysondeb a gallu wrth gomisiynu a chaffael y meysydd hanfodol bwysig hyn o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Rhaid i drefn gaffael effeithiol gael ei hategu gan raglen datblygu sgiliau. Bydd rhaglen sgiliau a gallu newydd felly yn cael ei llunio er mwyn i swyddogion caffael ddysgu am dechnegau masnachol modern ac er mwyn cynhyrchu llif o dalent ar gyfer y dyfodol i geisio mynd i'r afael â phrinder sgiliau a bylchau sy'n cael eu creu gan wahanol strwythurau cyflog a thâl.

Mae'r rhanddeiliaid hefyd wedi dweud yn glir bod angen strategaeth gaffael ddigidol flaengar yn y dyfodol er mwyn cydweithio, symleiddio mynediad i gyflenwyr a darparu data a gwybodaeth ar gyfer gwneud polisïau a phenderfyniadau yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid i ddatblygu hyn.

Er mwyn cefnogi'r gofynion hyn, rwy'n cyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn raddol ddod i ben ar ei ffurf bresennol. Mae'n amlwg nad yw darparu swm uchel o fframweithiau cenedlaethol bellach yn flaenoriaeth i gwsmeriaid, ac fe welir hyn yn lefel y gyfranogaeth yn fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sy'n llai na'r hyn a ragwelwyd yn yr achos busnes.

Bydd y newid hwn yn cael ei reoli er mwyn sicrhau parhad busnes mewn perthynas â chontractau fframwaith sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan gyrff cyhoeddus, ac i roi sicrwydd i gyflenwyr sy'n rhan ohonynt.

Bydd gweithrediad llai yn cael ei sefydlu i reoli portffolio llai o gontractau cenedlaethol lle bo’n amlwg bod trefniadau o'r fath yn cynnig gwerth am arian ar draws mwyafrif sylweddol o sefydliadau sector cyhoeddus Cymru.

Byddwn yn ymgynghori â thîm y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac yn eu cynnwys wrth ddatblygu ffordd ymlaen. Bydd y rhai nad ydynt yn rhan o'r swyddogaeth gontractio genedlaethol yn cael cynnig cyfleoedd i fod yn rhan o'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau rhanbarthol a lleol, yr uned gymorth cyflawni a datblygu polisi cenedlaethol neu raglen fasnach a chaffael Llywodraeth Cymru, neu weithgareddau tebyg.

Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r adolygiad wedi dangos bod angen i'n polisi caffael a rhaglenni caffael cenedlaethol/rhanbarthol yn y dyfodol gael eu rheoli a'u cyflawni ar wahân fel elfennau allweddol o raglen waith strategol, trawsbynciol sydd â mwy o bwyslais ar adeiladu cyfoeth cymunedol ar draws Cymru.

Ein nod yw manteisio i'r eithaf ar wariant caffael yng Nghymru, gan ddefnyddio'r £6bn o wariant caffael blynyddol i gefnogi swyddi a thwf cynaliadwy; gwaith ac arferion gweithio teg; buddsoddi mewn seilwaith ac adeiladu; defnyddio asedau cyhoeddus a chryfhau busnesau lleol a'u cymunedau.

Mae adborth yr adolygiad wedi dangos yn glir bod rhaid i ni hefyd weithio i sicrhau cysylltiad clir rhwng caffael a nodau llesiant cyrff cyhoeddus ar draws Cymru, a sicrhau bod modd i'r cyflenwyr gymryd rhan yn well mewn prosesau caffael cyhoeddus.

Bydd fy swyddogion yn cydweithio â phartneriaid sector cyhoeddus i ddatblygu cynlluniau i symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad a'r diwydiant. Os bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, buaswn yn hapus i wneud hynny.