Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad i’r Cyfarfod Llawn ar Gynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd ar 26 Tachwedd 2013, disgrifiais amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli’n pysgodfeydd yn ystod y sesiwn hwn.  Mae’r amcanion hynny’n cynnwys y bwriad i adolygu’r modd y rheolir pysgodfeydd cramenogion o gwmpas Cymru.  Rwyf am weld pysgodfa cramenogion hyfyw a chynaliadwy yng Nghymru gyda deddfwriaeth syml ac effeithiol yn gefn iddi.

Mae fy swyddogion wedi ystyried yr opsiynau ar gyfer rheoli Cimychiaid, Cimychiaid Coch, Crancod Coch, Crancod Heglog a Chrancod Llygatgoch.  Bydd Rhan 1 yr adolygiad yn ystyried y gofynion maint lleiaf ar gyfer y rhywogaethau hyn yn ogystal â mesurau i ddiogelu’r stoc cimychiaid bridio.

Amherir ar y trefniadau rheoli’r pysgodfeydd hyn gan hen ddeddfwriaeth sydd weithiau’n gorgyffwrdd, yn dyblygu ac yn croesddweud.  Lle bo’n berthnasol, rwyf am ddiddymu’r ddeddfwriaeth bresennol a chyflwyno cyfres o fesurau perthnasol ac ystyrlon a fydd yn symleiddio trefniadau rheoli a gorfodi pysgodfeydd cramenogion Cymru a diogelu’u cynaliadwyedd tymor hir.

Bydd Rhan II yr adolygiad cramenogion yn ystyried mabwysiadu mesurau cadwraeth ychwanegol sy’n gofyn am fwy o dystiolaeth cyn y gellir eu hystyried ar gyfer eu cyflwyno.  Gofynnir i’r diwydiant am ei farn ar y mesurau cychwynnol hyn, sy’n cynnwys y posibilrwydd o fabwysiadu meintiau glanio mwyaf a thyllau dianc mewn cewyll cramenogion.

Rwyf heddiw wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion am 12 wythnos gyda’r bwriad o roi’r broses gyfreithiol ar gyfer drafftio deddfwriaeth newydd ynghylch Rhan I ar waith yn haf 2014. Cliciwch ar y ddolen isod i weld y ddogfen ymgynghori.