Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad adolygiad cynhwysfawr o’r holl oedolion o Gymru sydd ag anabledd dysgu ac sy’n derbyn gofal mewn ysbytai arbenigol fel cleifion mewnol, sef gofal sydd naill ai wedi ei gomisiynu neu ei ddarparu’n uniongyrchol gan GIG Cymru. Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru sydd wedi comisiynu’r adolygiad hwn fel rhan o’n rhaglen draws-lywodraethol: Anabledd Dysgu – Gwella Bywydau. 

Roedd yr adolygiad yn cynnwys pob oedolyn o Gymru sydd â diagnosis o anabledd dysgu, ac sy’n derbyn gofal mewn gwely claf mewnol, a ddarperir gan GIG Cymru neu a gomisiynir ganddo; roedd hynny’n cynnwys gwelyau yn GIG Cymru a GIG Lloegr, yn ogystal â gwelyau yn y sector ysbytai annibynnol.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan yr Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol, a gynhaliodd archwiliad manwl mewn perthynas â phob un o’r 169 o unigolion a oedd mewn unedau arbenigol ar adeg yr adolygiad. Archwiliwyd pob cofnod claf, gan gynnwys nodiadau clinigol a siartiau rhagnodi, a siaradodd tîm yr adolygiad â staff clinigol yn ogystal â’r cleifion hynny a oedd â’r gallu i gyfranogi ac a oedd yn dymuno gwneud hynny. Hefyd ymgynghorodd y tîm adolygu ag eiriolwyr, a phrosiect Pobl yn Gyntaf Cymru.   

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau anabledd dysgu arbenigol mor agos i’w cartrefi â phosibl. Mae’r rhan fwyaf o unigolion (81%) yn derbyn gofal yng Nghymru. Mae tri deg un o unigolion yn derbyn gofal mewn ysbytai yn Lloegr, gan gynnwys deg o unigolion sydd wedi eu lleoli mewn unedau diogelwch lefel uchel neu ganolig.

Yr hyn sydd wrth wraidd Rhaglen Gwella Bywydau Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2018, yw’r egwyddor sylfaenol bod gan unigolion ag anabledd dysgu yr hawl i gael bywyd boddhaus ac annibynnol gartref neu mor agos at adref â phosibl.  Pan fo angen gofal arbenigol dwys mewn ysbyty, dylai’r gofal hwnnw fod yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel, gyda ffocws ar gefnogi’r unigolyn mewn modd sy’n ei alluogi i ddychwelyd adref cyn gynted â’i bod yn ddiogel iddo wneud hynny. Mae’r rhaglen yn nodi camau gweithredu penodol y dylai byrddau iechyd, gwasanaethau tai awdurdodau lleol, a gwasanaethau cymdeithasol eu cymryd. Yn aml, fe gymerir y camau hyn drwy weithio ar lefel byrddau partneriaeth rhanbarthol, a’r nod yw datblygu modelau cymorth sy’n integreiddio tai, iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod lefel briodol o ddarpariaeth arbenigol ar gael i’r rheini sydd ag anghenion mwy cymhleth. Gwelwyd cynnydd ar draws Cymru, ac mae llawer o ardaloedd wedi cael cyllid gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru a ffrydiau cyfalaf a refeniw’r Gronfa Gofal Integredig i ail-strwythuro’r gwasanaethau presennol a datblygu dulliau gweithredu newydd ar gyfer darparu gofal integredig yn y gymuned.

Nid oedd yr adolygiad wedi dod o hyd i unrhyw un a oedd mewn perygl o gael niwed i’r graddau y byddai’n rhaid ei symud o’i leoliad presennol. Serch hynny, nodwyd nifer o unigolion a allai elwa o gael eu hasesu i weld pa mor briodol fyddai darparu cymorth llai dwys iddynt mewn cyd-destun cymunedol. Mae’r adroddiad a’i argymhellion yn darparu llinell sylfaen o wybodaeth fanwl i helpu byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a byrddau partneriaeth rhanbarthol i gryfhau’r ddarpariaeth leol o ofal â chymorth ac i ganolbwyntio ar yr agweddau hynny ar ansawdd gwasanaethau y mae angen eu gwella. 

Mae Prif Weithredwr prosiect Pobl yn Gyntaf Cymru yn cydnabod yn ei Ragair i’r adroddiad ein bod wedi gweld gwelliant sylweddol yng Nghymru o ran darparu cymorth i bobl ag anabledd dysgu, a bod y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn eu cymunedau gyda chymorth gofal effeithiol. Fodd bynnag, mae’n iawn i bwysleisio bod angen gwneud rhagor i sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn gofal o’r radd flaenaf os bydd angen cymorth dwys arno mewn uned arbenigol, a bod y gofal hwnnw yn canolbwyntio ar ei helpu i ddychwelyd adref cyn gynted ag y bo’n ddiogel ac yn briodol iddo wneud hynny.

Mae’r Uned Comisiynu Gydweithredol Genedlaethol eisoes yn gweithio gyda byrddau iechyd a darparwyr i roi sylw i rai o’r materion allweddol a nodwyd, a bydd yn monitro’r gwaith gwella hwn yn agos. Ar lefel leol, bydd y byrddau iechyd yn rhoi cynlluniau gweithredu ar waith i roi sylw i’r argymhellion, a hynny fel mater o flaenoriaeth. Bydd hyn yn ategu’r gwaith y mae’r byrddau iechyd eisoes wedi bod yn ei wneud i asesu a chryfhau’r ddarpariaeth arbenigol a chymunedol sy’n bodoli ar hyn o bryd, drwy sefydlu timau atal argyfyngau a sicrhau bod rhagor o ofal â chymorth yn cael ei ddarparu yn y gymuned.

Ar lefel genedlaethol, byddwn yn tynnu ynghyd ein holl bartneriaid yn y Trydydd Sector a’r gwasanaethau statudol, yn ogystal â theuluoedd, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Bydd y cyfuniad pwerus hwn o brofiadau go iawn ac arbenigedd proffesiynol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu atebion a chanllawiau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod yr arferion gorau a safonau clinigol yn rhan annatod o bob agwedd ar y gwasanaethau arbenigol a ddarperir ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. 

Yma yng Nghymru mae ein system fonitro drylwyr yn archwilio’r holl unedau arbenigol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu o leiaf unwaith y flwyddyn, a bydd y drefn hon yn parhau. Mae’r adroddiad yn amlygu nifer o agweddau cadarnhaol ar y system, yn ogystal â thynnu sylw at yr agweddau hynny ar y gwasanaeth y mae angen eu cryfhau a’u gwella. Mae’n rhoi cyfle inni adeiladu ar y cynnydd a wnaed er mwyn i un o’n grwpiau o bobl fwyaf agored i niwed allu derbyn gofal mewn amgylchedd diogel sy’n parchu eu hurddas, lle mae eu hanghenion yn cael eu diwallu drwy ddarparu triniaeth a gofal therapiwtig o ansawdd uchel. 

Byddaf yn monitro’r cynnydd a wneir, gan ddarparu newyddion am hynt y gwaith yn yr hydref. Gweler y dolenni at yr adroddiad isod.

https://llyw.cymru/adolygiad-gofal-cenedlaethol-o-ddarpariaeth-ysbytai-anabledd-dysgu-y-gig